Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd
Mae prinder staff yn cael effaith ar bob rhan o’r gadwyn fwyd ac un agwedd sy’n peri gofid arbennig yw’r prinder gyrwyr HGV. Mae gyrwyr HGV yn hanfodol ar gyfer dosbarthu bwyd yn effeithiol ac yn brydlon rhwng ffermydd a ffatrïoedd trwy gludo cynhwysion ac eitemau eraill sy’n hanfodol ar gyfer gweithgynhyrchu bwyd a chludo cynnyrch wedi’u prosesu i ganolfannau dosbarthu ac yna i’r siopau.
Mae llawer o ffactorau sydd wedi taro yr un pryd yn cyfrannu at y prinder. Y llynedd, gwelwyd llawer o yrwyr yn dychwelyd adref i'r UE. O fis Ionawr eleni, nid oedd gyrwyr yn gymwys i ddychwelyd i'r DU gan nad yw'r swydd ar restr Sgiliau Prin y Swyddfa Gartref ac weithiau roedd hyd yn oed y rheini oedd â statws preswylydd sefydlog yn amharod i ddychwelyd oherwydd gofynion cwarantîn.
Rhoddodd cyfnod clo Covid-19 stop ar brofion gyrru HGV, gyda 30,000 o ymgeiswyr yn ôl y sôn yn aros am brawf. Bydd angen amser i'w clirio. Ym mis Ebrill, gwelwyd newid y rheolau a nifer o gludwyr hunangyflogedig yn gorfod newid i statws cyflogedig. Mae'n ymddangos bod hyn wedi rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau cwmnïau cludo nwyddau, gan arwain at gynyddu prisiau cludo nwyddau ar lwybrau allweddol.
Mae gyrwyr asiantaeth yn rhan bwysig o’r adnodd cyfan ac ymddengys bod llai ohonynt hwythau hefyd.
Mae'r gofyn, oherwydd olrhain cysylltiadau, i yrwyr a gweithwyr eraill y diwydiant bwyd ynysu hefyd wedi cyfrannu at y prinder.
Mae canlyniadau prinder gyrwyr yn bellgyrhaeddol a gallant gyfrannu at wastraffu mwy o fwyd ac at arafu cyflenwadau bwyd i elusennau bwyd. Mae pwysau cynyddol ar gyflogau gyrwyr sy'n debygol o arwain yn y pen draw at gynyddu prisiau bwyd.
Cefais gyfarfod arall â'r prif fanwerthwyr y mis diwethaf ac yr oedd gan bob un ohonynt bryderon sylweddol am y prinder yn y gweithlu a'r broblem gyrwyr yn benodol. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch arafwch profion ar yrwyr HGV
Cefais gyfarfod hefyd â George Eustice, Ysgrifennydd Gwladol DEFRA, ym mis Gorffennaf i fynegi fy mhryderon a hefyd fy rhwystredigaeth gyda safbwynt Llywodraeth y DU, bryd hynny, mai problem i’r diwydiant yw hyn ac mai’r diwydiant ddylai ei datrys.
Mae'r sefyllfa'n gwella gan bwyll. Mae'r cyfyngiadau ar derfynau amser cyflenwi wedi'u llacio a hefyd ar oriau gyrwyr. Mae'r drefn brofi wedi'i chyflymu a mwy o hyblygrwydd wedi'i chyflwyno er mwyn i yrwyr allu cael trwydded HGV mewn un prawf. Erbyn hyn, mae opsiwn o drwydded fwy sylfaenol i ganiatáu gyrru cerbydau mwy o hyd at 7.5 o dunelli, hynny yn sgil cael gwared ar gyfyngiadau rheolau'r UE. Roedd gyrwyr HGV wedi cael eu denu i yrru'r cerbydau llai hyn yn sgil y cynnydd mewn siopa ar-lein. Mae Defra bellach yn ystyried ychwanegu gyrwyr HGV at y rhestr o alwedigaethau prin o safbwynt mewnfudo. Ond nid oes penderfyniad pendant wedi’i wneud eto.
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn bennaf yw datrys problem prinder gyrwyr HGV a phrinder gweithwyr eraill yn y gadwyn fwyd, gan gynnwys rheoli mewnfudo. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru'r sefyllfa gan gynnwys bod y wlad gyntaf yn y DU i ddileu'r gofyn i olrhain cysylltiadau ar gyfer unigolion sydd wedi’u brechu ddwywaith ar 7 Awst.
Ni ymddengys fod y pingdemig fel y’i gelwir, wedi ychwanegu'n sylweddol at y broblem yn y cyfamser. Bu bylchau ar silffoedd archfarchnadoedd a llai o ddewis o gynhyrchion ond rydym wedi dygymod ag unrhyw brinder ac mae'r cyhoedd wedi bod yn synhwyrol a heb droi at brynu panig.
Mae materion tymor hwy i fynd i'r afael â hwy o ran sicrhau'r gweithlu sydd ei angen arnom yn y diwydiant bwyd yng Nghymru, o gynhyrchwyr cynradd i fanwerthwyr a gwasanaethau bwyd. Yn rhannol, mae hyn yn dibynnu ar sicrhau bod y diwydiant yn lle da i weithio ynddo, sy’n talu cyflogau teg ac yn rhoi hyfforddiant ac yn datblygu sgiliau sy’n arwain at yrfaoedd gwerth eu dilyn. Bydd swyddogion a'r Bwrdd Diwydiant Bwyd yn parhau i weithio tuag at y nod hwn yn ystod tymor hwn y Llywodraeth.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.