Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Trwy gynnal perthynas bositif a chydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff a noddir gennym, gallwn weithio i sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru.
Bob blwyddyn, rwy’n anfon Llythyr Cylch Gwaith at bob corff noddedig yn fy mhortffolio i nodi amcanion polisi’r Llywodraeth a meysydd dangosyddion perfformiad y flwyddyn ariannol i ddod. Bydd y corff wedyn yn paratoi cynllun gweithredol am y flwyddyn gan nodi’r lefel gwasanaeth y disgwylir iddo ei chyflawni ym mhob prif faes, a gwybodaeth am berfformiad a chanlyniadau a gesglir i fonitro cynnydd ac a gyflwynir imi eu cymeradwyo. Byddaf i a’m swyddogion yn monitro cynnydd ar sail y Cynllun a’r dangosyddion perfformiad yn rheolaidd gydol y flwyddyn.
O dan y Ddogfen Fframwaith, mae gan bob corff ei Brif Weithredwr ei hun sydd trwy gonfensiwn, hefyd yn Swyddog Cyfrifon y corff hwnnw. Mae Byrddau cyrff noddedig yn atebol i Weinidogion am gyflawni amcanion penodol, llywodraethu at ansawdd uchel ac am oruchwylio prif swyddogion y corff noddedig, gan gynnwys y Prif Weithredwr. Mater yn bennaf i’r Bwrdd yw trefniadau rheoli mewnol y corff noddedig. Fel Llywodraeth, rydym yn dibynnu yn arbennig ar adroddiadau’r archwilwyr mewnol ac allanol am wybodaeth. Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl a’r cyfrifoldeb hefyd i gymryd awenau materion penodol pan fydd angen.
Mae gan bob corff noddedig ei Ddogfen Fframwaith ei hun, sy’n seiliedig ar dempled canolog sy’n ystyried amgylchiadau penodol y corff unigol, gan gynnwys ei brif rôl ac amcanion yn unol â’i ddogfen lywodraethu a’i ymrwymiadau statudol o dan Ddeddfwriaeth y DU a Chymru. Mae’r ddogfen yn disgrifio hefyd rolau a’r hyn a ddisgwylir gan pawb sy’n gysylltiedig â’r corff noddedig (gan gynnwys Gweinidogion, Cadeiryddion, Byrddau, Prif Weithredwyr, Swyddogion Cyfrif, adrannau noddi ac archwilwyr).
Mae’r cyrff noddedig a restrir uchod yn cael eu hariannu gan fwyaf gan Lywodraeth Cymru. Diffinnir natur y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a phob corff noddedig mewn Dogfen Fframwaith, sy’n gytundeb sy’n gosod allan yr amodau a thelerau ar gyfer talu arian cyhoeddus iddo.
Mae gofyn i’r cyrff noddedig sydd hefyd yn elusennau cofrestredig neu a sefydlwyd o dan Siarter Brenhinol gydymffurfio â thelerau’r Siarter, Cyfraith Elusennau a’r arweiniad a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennau.
Mae gan y cyrff noddedig arbenigedd a phrofiad mewn meysydd arbenigol, ac maen nhw’n bartneriaid gwerthfawr sy’n cefnogi ac yn cyfrannu at fentrau a rhaglenni strategol Llywodraeth Cymru. O safbwynt eu llywodraethu, mae ganddynt Gadeiryddion a Byrddau ar wahân sydd wedi’u penodi yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.
Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gyrff a noddir ganddi, gyda phedwar ohonyn nhw’n rhan o’m portffolio i, sef Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae perthynas gyffredin wedi’i llunio rhwng Llywodraeth Cymru a’r holl gyrff a noddir ganddi. Felly bydd yr egwyddorion cyffredinol a drafodir yn y datganiad hwn yn gymwys hefyd i’r cyrff eraill a noddir gan y Llywodraeth.
Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau. Os carai aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y pwnc wedi i’r Cynulliad ailddechrau, byddwn yn fwy na pharod i wneud.
Yn dilyn cwestiwn Julie Morgan i Arweinydd y Tŷ yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Gorffennaf, rwyf wedi paratoi’r datganiad canlynol i esbonio’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â’i chyrff noddedig.