Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn dilyn trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Ebrill parthed amseroedd ymateb ambiwlans, rhoddais ymrwymiad y byddwn yn gwneud Datganiad Ysgrifenedig ar berfformiad Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn erbyn y ddwy safon amser ymateb dros y deuddeng mis diwethaf. Bydd Aelodau’n gwybod bod dau darged yn gymwys i’r Ymddiriedolaeth:

  1. 65% o’r holl alwadau yn y categori ‘lle mae bywyd yn y fantol’ i gael ymateb brys o fewn 8 munud ar sail Cymru gyfan; a
  2. 60% o’r holl alwadau yn y categori ‘lle mae bywyd yn y fantol’ i gael ymateb o fewn 8 munud ar sail Awdurdod Unedol.

Rwyf i’n falch i nodi bod y perfformiad o ran amser ymateb wedi gwella’n sylweddol yn ddiweddar. Cyflwawnyd y targed 65% Cymru gyfan gan yr Ymddiriedolaeth yn ystod deg o’r deuddeng mis diwethaf a dim ond o drwch blewyn y methwyd y targed ym mis Rhagfyr 2011 (64.7%) a mis Chwefror 2012 (63.2%) yn ystod y cyfnod hwnnw.

Y perfformiad yn ystod mis Rhagfyr 2011 oedd yr uchaf a gyflawnwyd erioed mewn unrhyw fis Rhagfyr blaenorol ac mae’n nodedig oherwydd y cynnydd sylweddol yn y nifer o alwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol yn ystod y mis hwnnw. Hefyd ym misoedd Mai, Gorffennaf ac Awst 2011 cyflawnodd yr Ymddiriedolaeth ei pherfformiad uchaf yn erbyn y safon genedlaethol ers i honno gael ei chyflwyno (71.2%).

Mae’n bwysig nodi bod yr Ymddiriedolaeth hefyd wedi gwella lefelau perfformiad mewn nifer o ardaloedd Awdurdod Unedol a gafodd drafferth yn flaenorol i gyflawni’r safon tegwch o 60%. Rwyf i’n falch i weld bod gwelliannau wedi’u cyflawni yn Sir Fynwy a Sir Benfro lle mae’r safon o 60% yn cael ei chyflawni’n gyson.

Rwyf i’n cydnabod bod angen gwella perfformiad amseroedd ymateb yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Phowys yn nhermau cysondeb. Fodd bynnag bydd Aelodau’n gwybod am y set unigryw o heriau a wynebir gan yr Ymddiriedolaeth wrth ddarparu ymateb 8 munud yn y tair ardal hyn. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i wella perfformiad yn yr ardaloedd hyn. Mae cyflwyno Pennaeth Cyflenwi Gwasanaeth ym mhob Bwrdd Iechyd, yn ogystal â chyflwyno llwybrau gofal amgen, wedi’u bwriadu i wella’r modd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi yn yr ardaloedd hyn yn ogystal â’r holl ardaloedd eraill yng Nghymru.  

Mae’r gwelliannau yn yr amseroedd ymateb dros y deuddeng mis diwethaf yn tystio i waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad y staff gweithrediadol a rheoli yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Caiff y gwaith caled hwn ei gefnogi gan ymagwedd strategol flaengar sydd wedi gweld cyflwyno model ymateb clinigol â’r nod o ddarparu’r gwasanaeth iawn gyda’r gofal iawn, yn y lle iawn ar yr amser iawn a chyda’r sgiliau iawn. Bydd y cyfeiriad strategol hwn yn arwain at newid yn narpariaeth y gwasanaeth ambiwlans o fod yn wasanaeth trafnidiaeth i fod yn ddarparwr gofal iechyd o ansawdd uchel.

Rwyf i’n disgwyl i’r Ymddiriedolaeth barhau’n gyson i gyflawni’n uwch na’r safon o 65% yn genedlaethol a gweithio at gyflawni 70% ar sail fisol dreigl eleni.

Rwyf i hefyd yn disgwyl gweld pwyslais cynyddol ar gyflawni a chadw at y safon tegwch o 60% ar draws yr holl ardaloedd Awdurdod Unedol, a darparu gwasanaethau ambiwlans teg i’r holl gleifion yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r Ymddiriedolaeth wrth iddi gyflenwi ei rhaglen wella a’i hamcan cyffredinol sef darparu gofal clinigol o’r ansawdd uchaf i gleifion y mae angen ymateb ambiwlans arnynt.