Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (“y Bil”) yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad. 

Mae Rhan 6 o'r Bil yn ymwneud â pherfformiad a llywodraethiant prif gynghorau, gan ddarparu ar gyfer cyfundrefn perfformiad newydd yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu gan gymheiriaid. 

Heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft i hwyluso gweithredu'r gyfundrefn newydd ac i gefnogi prif gynghorau wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 6 o'r Ddeddf. Fy mwriad wrth ymgynghori ar y canllawiau hyn cyn i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol yw sicrhau bod y canllawiau terfynol yn eu lle pan ddaw'r darpariaethau o dan Ran 6 i rym.

Mae'r canllawiau statudol drafft wedi'u cyd-ddatblygu gyda llywodraeth leol ac ymgysylltwyd yn helaeth  â rhanddeiliaid allweddol. Rydym am sicrhau bod hwn yn rhywbeth gwerthfawr o safbwynt llywodraeth leol a’i fod yn darparu cyfle ystyrlon i gryfhau cynghorau’n barhaus.

Neges glir yn ystod y cyfnod cydgynhyrchu hwn fu bod llywodraeth leol am gael hyblygrwydd i bennu ei hymagwedd ei hun at hunanasesu ac asesiad gan banel, wedi'i dylunio i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol a strwythurau corfforaethol, ac yn seiliedig ar arferion gorau.  Mewn ymateb, mae'r canllawiau drafft wedi'u datblygu mewn ffordd sy'n ceisio cefnogi prif gynghorau i ddeall a chymhwyso'r dyletswyddau mewn ffordd sy'n briodol i'w hamgylchiadau eu hunain, gan arddel ymagwedd alluogi yn hytrach na bod yn rhy ragnodol.    

Mae'r ddogfen ymgynghori a'r canllawiau statudol drafft i'w gweld yn y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/perfformiad-llywodraethiant-awdurdodau-lleol-canllawiau-drafft

Mae'r ymgynghoriad yn para tan 3 Chwefror 2021, ac rwyf yn edrych ymlaen at  ystyried adborth gan randdeiliaid a phartïon eraill â buddiant.