Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfrifon un corff ar ddeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2018-19 wedi'u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Am y tro cyntaf, mae hyn yn cynnwys cyfrifon Addysg a Gwella Iechyd Cymru a ddaeth i rym ym mis Hydref 2018.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae cyfrifon y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG wedi'u paratoi o dan drefn ariannol tair blynedd y GIG a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. Fel Awdurdod Iechyd Arbennig, nid yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn dod o dan y Ddeddf hon, ac mae angen iddo fantoli'r gyllideb ym mhob blwyddyn ariannol.

Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru o'r farn bod holl gyfrifon y GIG ar gyfer 2018-19 yn 'gywir a theg'. Mae chwech o'r deg corff a ddaw dan Ddeddf 2014 wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb drwy weithio o fewn eu cyllidebau yn ystod y cyfnod asesu tair blynedd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2019. Roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru hefyd wedi mantoli'r gyllideb yn 2018-19.

Nid yw pedwar corff wedi cyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r gyllideb dros y tair blynedd ac maent wedi rhoi gwybod am ddiffyg yn y gyllideb ym mhob un o'r tair blynedd ariannol o 2016-17. Felly, mae'r pedwar corff hwn wedi methu â bodloni eu dyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb ar gyfer y cyfnod asesu tair blynedd, ac o ganlyniad, maent wedi cael barn amodol ar reoleidd-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer eu cyfrifon yn 2018-19.

Roedd y pedwar bwrdd iechyd dan sylw wedi dweud na fyddent yn gallu mantoli'r gyllideb yn 2018-19 ac roeddent wedi cynllunio ar gyfer diffyg yn eu halldro. I gynnal disgyblaeth ariannol, a sicrhau y gellid rheoli'r diffyg o fewn y gyllideb iechyd cyffredinol, gosododd Llywodraeth Cymru gyfansymiau rheolaeth ariannol ar gyfer uchafswm y diffyg yn 2018-19 fel a ganlyn:

Abertawe Bro Morgannwg £10 miliwn
Betsi Cadwaladr  £35 miliwn
Caerdydd a'r Fro £9.9 miliwn
Hywel Dda £35.6 miliwn

Roedd tri o'r sefydliadau hyn – Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda - wedi diwallu'r cyfanswm rheolaeth ariannol ar gyfer uchafswm y diffyg a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddais ym mis Mai 2018, yn dilyn adolygiad cwbl gynhwysfawr o'i sylfaen gostau gan ymgynghorwyr allanol, y byddwn yn dyrannu £27 miliwn ychwanegol yn flynyddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gan ystyried y cyllid ychwanegol, mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybod am well alldro o ychydig dan £7 miliwn o'i gymharu â 2017-18. Hefyd, yn ystod y flwyddyn, cytunais i ddyrannu £10 miliwn ychwanegol yr un i Fyrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro i gydnabod y gwelliannau yn eu cynlluniau ar gyfer 2018-19. Gan ystyried y cyllid ychwanegol hwn, mae'r ddau Fwrdd wedi rhoi gwybod am well alldro o £12.5 miliwn a £7.0 miliwn, yn y drefn honno.

Yn fy natganiad llafar ar 4 Mehefin, nodais fy mhryderon parhaus ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a'r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwelliant mewn cynllunio a rheolaeth ariannol yn y corff hwnnw. Mae'n siomedig bod y Bwrdd Iechyd unwaith eto wedi methu cadw o fewn y cyfanswm rheolaeth ariannol ar gyfer uchafswm y diffyg yn 2018-19, gan roi gwybod am alldro o £6.2 miliwn yn fwy na'r cyfanswm rheolaeth ariannol, a £2.4 miliwn yn uwch na'u diffyg yn 2017-18.

Yn gyffredinol, a gan ystyried y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd yn ystod y flwyddyn uchod, mae alldro net GIG Cymru yn 2018-19 £24 miliwn yn well o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dangos cynnydd amlwg mewn sefydlogrwydd ariannol ar gyfer GIG Cymru, sy'n adlewyrchiad o'r buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn unol â'r argymhellion gan y Nuffield Trust, ynghyd â gwelliannau yn rheolaeth ariannol y GIG. Wedi i mi gymeradwyo saith Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2019-20, rwy'n disgwyl rhoi gwybod am welliant pellach yn y sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

Mae cymorth arian parod ychwanegol yn parhau i gael ei roi yn ôl yr angen i'r holl fyrddau sydd mewn diffyg ariannol i'w galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau arian parod arferol, gan gynnwys gwariant y gyflogres. Bydd angen ad-dalu'r cymorth arian parod hwn yn ystod blynyddoedd ariannol y dyfodol pan fydd cynlluniau priodol, gwell yn cael eu datblygu a'u cymeradwyo o dan y Ddeddf ar gyfer ad-dalu diffygion ariannol. 

Edrychaf ymlaen at weld archwiliad terfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy'n hyderus y bydd yn dangos bod y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi gweld gwarged bach eto yn 2018-19, a hynny o ganlyniad i'r camau a gymerwyd i reoli'r diffygion a ysgwyddwyd gan y pedwar bwrdd iechyd y llynedd.

Mae fy swyddogion yn paratoi cyfrifon cryno ar gyfer y Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf ar ôl eu cymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae cyfrifon y cyrff unigol ar gael yn: http://www.cynulliad.cymru/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?assembly=5&category=Laid%20Document