Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyfrifon pob un o ddeg corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2017-18 wedi'u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r cyfrifon gael eu paratoi o dan drefn ariannol dair blynedd y GIG a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), a ddaeth i effaith ar 1 Ebrill, 2014.

Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru o'r farn bod holl gyfrifon y GIG ar gyfer 2017-18 yn 'gywir a theg'. Mae chwech o'r deg corff wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros gyfnod statudol drwy weithio o fewn eu cyllidebau yn ystod y cyfnod asesu tair blynedd o fis Ebrill 2015 i fis Mawrth 2018. Yn ogystal â'r alldro yr adroddwyd arno, cynhyrchwyd £2.4 miliwn a £3 miliwn o warged, yn eu trefn, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddwyn y symiau hyn ymlaen. Cafodd y symiau hyn eu tynnu o ddyraniadau'r byrddau ar gyfer 2017-18, a byddant yn cael eu rhoi iddynt unwaith eto yn 2018-19.    

Nid yw pedwar o'r deg corff wedi cyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o fewn ei ddyraniadau ar gyfer 2015-16 ond methodd â gwneud hynny ar gyfer 2016-17 a 2017-18; gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o fewn ei ddyraniadau ar gyfer 2015-16 ond methodd â gwneud hynny yn 2016-17 a 2017-18; methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â gweithio o fewn eu dyraniadau yn ystod pob un o'r tair blynedd dan sylw. Felly, mae'r pedwar corff hwn wedi methu â bodloni eu dyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb ar gyfer y cyfnod asesu tair blynedd, ac o ganlyniad, maent wedi cael barn amodol ar reoleidd-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer eu cyfrifon yn 2017-18.

Fel cyrff annibynnol a chanddynt ddyletswydd statudol i weithio o fewn eu dyraniadau dros gyfnod o dair blynedd, disgwylia Llywodraeth Cymru i'r byrddau iechyd gymryd y camau angenrheidiol i fodloni eu dyletswyddau ariannol. Yn 2017-18, dywedodd pedwar bwrdd iechyd na fyddent yn gallu mantoli'r gyllideb a chynlluniasant ar gyfer diffyg yn eu halldro. I gynnal disgyblaeth ariannol y cyrff hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfansymiau rheolaeth ariannol ar gyfer uchasfwm y diffyg yn 2017-18 fel a ganlyn:
  • Abertawe Bro Morgannwg £36.0 miliwn
  • Betsi Cadwaladr £26.0 miliwn
  • Caerdydd a'r Fro £30.9 miliwn
  • Hywel Dda £58.9 miliwn
Mae dau gorff – Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro – wedi gwella eu sefyllfa o ran diffyg ariannol yn 2017-18 o'i gymharu â 2016-17, ac roedd eu canlyniadau hefyd yn well na'r cyfansymiau rheoli diffyg a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn 2015-16 a 2016-17, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol afreolaidd o £14.4 miliwn yn ystod pob blwyddyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, fel cymorth strwythurol tymor byr i gydnabod yr heriau ariannol oedd yn wynebu'r Bwrdd. Yn ystod 2017-18, ni ddarparwyd unrhyw gyllid ychwanegol, gan fod Llywodraeth Cymru ar fin comisiynu adolygiad seiliedig ar sero o sylfaen gost y Bwrdd. Ar 23 Mai 2018, cyhoeddais ganfyddiadau'r adolygiad hwnnw sy'n cadarnhau'r rhannol fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd sydd wedi cyfrannu at y diffygion cyson a ysgwyddir gan y Bwrdd a'i sefydliadau rhagflaenol. Wrth ymateb i'r canfyddiadau hyn, cymeradwyais fod £27 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol yn cael ei ryddhau i'r Bwrdd Iechyd o 2018-19 ymlaen. Mae hyn yn golygu y bydd y Bwrdd Iechyd ar sylfaen gyllido deg o gymharu a’r byrddau iechyd eraill wrth fynd ymlaen ac mae'n sail gadarn i'r Bwrdd ddatblygu a thrawsnewid gwasanaethau.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i fod o dan Fesurau Arbennig ac, er gwaetha'r cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd pwysig, mae'n dal i wynebu heriau sylweddol. Yn ystod 2017-18, yn ogystal â meysydd eraill sydd o dan fesurau arbennig, cafodd y statws uwchgyfeirio ei godi mewn perthynas â rheolaeth ariannol a meysydd perfformiad allweddol. Rhoddwyd fframwaith i'r Bwrdd Iechyd ar 8 Mai 2018 sy'n nodi'r disgwyliadau ar gyfer y 18 mis nesaf.

Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol a adroddodd am ddiffygion ariannol yn 2017-18 wedi cael adroddiadau o adolygiadau llywodraethu ariannol annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2017-18, ac maent wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau gweithredu i'w rhoi ar waith. Mae cynnydd ar gyflawni'r camau hyn yn cael ei fonitro gan swyddogion drwy gyfarfodydd ymyrraeth rheolaidd â'r byrddau hyn.

Mae cymorth arian parod ychwanegol yn parhau i gael ei roi yn ôl yr angen i'r holl fyrddau sydd mewn diffyg ariannol i'w galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau arian parod arferol, gan gynnwys gwariant y gyflogres. Bydd modd ad-dalu'r cymorth arian parod hwn yn ystod blynyddoedd ariannol y dyfodol pan fo'n briodol, a chaiff cynlluniau gwell eu datblygu a'u cymeradwyo o dan y Ddeddf ar gyfer ad-dalu diffygion ariannol.  

Gan ystyried gwarged y ddau fwrdd iechyd sydd wedi cael eu broceru ymlaen yn ystod 2017-18, a'r cyllid afreolaidd ychwanegol a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda na chafodd ei ddarparu yn 2017-18 ond a fydd yn cael ei ddisodli o 2018-19 gan gyllid rheolaidd yn dilyn yr adolygiad yn seiliedig ar sero, roedd yr alldro net cyffredinol ar gyfer GIG Cymru yn 2017-18 ychydig yn well nag yn 2016-17. Mae hyn yn dangos bod y camau sy'n cael eu cymryd i gynyddu disgyblaeth ariannol yn GIG Cymru drwy'r broses gynllunio ar gyfer y tymor canolig a'r broses uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn cael effaith. Disgwyliaf weld rhagor o gynnydd eto tuag at sicrhau sefydlogrwydd ariannol i GIG Cymru yn ystod 2018-19.        

Edrychaf ymlaen at weld archwiliad terfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy'n hyderus y bydd yn dangos bod y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi gweld gwarged bach yn 2017-18, a hynny o ganlyniad i'r camau a gymerwyd i reoli'r diffygion a ysgwyddwyd gan y pedwar bwrdd iechyd yn 2017-18.

Mae'r cyfrifon ar gael yn: http://www.cynulliad.cymru/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?assembly=4&category=Laid Document