Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyfrifon pob un o gyrff y GIG yng Nghymru ar gyfer 2016-17 wedi'u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Dyma'r drydedd flwyddyn y mae'r cyfrifon wedi'u paratoi o dan drefn ariannol tair blynedd y GIG a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), a ddaeth i rym ar 1 Ebrill, 2014.

Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru o'r farn bod holl gyfrifon y GIG ar gyfer 2016-17 yn 'gywir a theg'. Mae chwech o'r deg corff wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros gyfnod statudol o dair blynedd drwy weithio o fewn eu cyllidebau dros y cyfnod asesu tair blynedd cyntaf o fis Ebrill 2014 i fis Mawrth 2017.

Nid yw pedwar o'r deg corff wedi cyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Llwyddodd Abertawe Bro Morgannwg i fantoli'r gyllideb yn 2014-15 ac yn 2015-16 ond ni lwyddodd i wneud yr un peth yn 2016-17; ni lwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i wneud hyn yn 2014-15 nac yn 2016-17, ond llwyddodd i fantoli'r gyllideb yn 2015-16; ac nid yw Byrddau Iechyd Betsi Cadwaladr na Hywel Dda wedi llwyddo i fantoli'r gyllideb yn ystod yr un o'r tair blynedd. Felly, mae'r pedwar corff hyn wedi methu â bodloni eu dyletswydd ariannol statudol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu tair blynedd cyntaf, ac o ganlyniad i hyn, maent wedi cael barn amodol ynghylch rheoleidd-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am eu cyfrifon ar gyfer 2016-17.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r pryderon ynghylch perfformiad ariannol y pedwar bwrdd iechyd hyn drwy fframwaith uwchgyfeirio'r GIG. Gosodwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. Er nad y materion ariannol oedd y rheswm penodol am eu gosod o dan fesurau arbennig, mae sefyllfa ariannol y Byrddau Iechyd wedi'i monitro ynghyd â meysydd eraill o bryder, ac rwyf wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i'r aelodau am y rhain.

Gosodwyd y tri Bwrdd arall oedd mewn diffyg ariannol o dan fesurau ymyrraeth wedi'u targedu ym mis Medi 2016, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r cyrff hyn i'w cefnogi a'u herio. Roedd hyn yn cynnwys cynnal adolygiadau llywodraethu ariannol ar y prosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau a fabwysiadwyd gan y cyrff wrth ddatblygu eu cynlluniau ariannol. Roedd hefyd yn cynnwys llywodraethu'r broses o adrodd ar berfformiad ariannol yn ystod y flwyddyn ac ymgysylltu â'r Bwrdd ynghylch y materion hyn. Daeth yr adolygiadau hyn i ben yn ddiweddar, a byddwn yn ystyried y gwersi i'w dysgu ac unrhyw gamau gweithredu dilynol sydd eu hangen ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd hon.

Mae cymorth ariannol ychwanegol yn parhau i gael ei roi yn ôl yr angen i'r holl Fyrddau sydd mewn diffyg ariannol i'w galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau arian cyffredinol gan gynnwys gwariant y gyflogres. Mae modd ad-dalu'r cymorth ariannol hwn yn ystod blynyddoedd ariannol y dyfodol pan fo'n briodol, a chaiff cynlluniau gwell eu datblygu a'u cymeradwyo o dan y Ddeddf er mwyn ad-dalu'r diffygion ariannol.

Edrychaf ymlaen at weld archwiliad terfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy'n hyderus y bydd yn dangos bod y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi’i mantoli yn gyffredinol yn 2016-17 o ganlyniad i'r camau a gymerwyd i reoli diffygion y pedwar bwrdd iechyd yn 2016-17.