Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyfrifon pob un o’r 10 sefydliad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac wedi cael eu cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Hon yw’r ail flwyddyn o baratoi’r cyfrifon o dan gyfundrefn ariannol dair blynedd newydd y GIG a gafodd ei chyflwyno o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 o 1 Ebrill 2014.

Yn ystod 2015-16, roedd Llywodraeth Cymru yn dal i flaenoriaethu cyllid y GIG a chafodd buddsoddiad ychwanegol o fwy na £400 miliwn ei ddarparu. Roedd hwn yn cynnwys:

  • £225 miliwn o gyllid yng Nghyllideb Ddrafft Medi 2014 yn dilyn cyhoeddi A Decade of Austerity in Wales?, adroddiad gan Ymddiriedolaeth Nuffield, ym mis Mehefin 2014
  • £70 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i weddnewid gwasanaethau’r GIG, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2014
  • £15 miliwn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2015  
  • £45 miliwn i wella perfformiad a £13 miliwn ar gyfer triniaethau newydd, a gafodd eu cyhoeddi ym mis Medi 2015
  • £45 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ymdopi â’r pwysau ar wasanaethau dros y gaeaf, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2016.

Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru farn ddiamod ar yr holl gyfrifon yn 2015-16, ac roedd wyth o’r 10 sefydliad y GIG yn gweithredu yn unol â’u cyllidebau yn 2015-16.

O ran y gyfundrefn ariannol newydd, mae saith o’r 10 sefydliad yn awr wedi mantoli’r cyfrifon dros ddwy flynedd gyntaf y gyfundrefn ariannol dair blynedd newydd. Methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wneud hyn yn 2014-15 ond llwyddodd i fantoli’r cyfrifon yn 2015-16. Ar y llaw arall, methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fantoli’r cyfrifon yn ystod y naill flwyddyn na’r llall.

Mae cymorth arian parod pellach yn dal i gael ei ddarparu yn ôl yr angen i’r byrddau sydd mewn diffyg i’w galluogi i fodloni eu hymrwymiadau arian parod arferol. Mae’r rhain yn cynnwys gwariant yn gysylltiedig â’r gyflogres a thaliadau i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Rhaid ad-dalu’r cymorth arian parod hwn mewn blynyddoedd ariannol sydd i ddod pan fydd cynlluniau gwell a phriodol yn cael eu datblygu a’u cymeradwyo o dan y Ddeddf i alluogi’r byrddau i ad-dalu diffygion.

Edrychaf ymlaen at weld canlyniad archwiliad terfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy’n hyderus y bydd y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei mantoli yn gyffredinol yn 2015-16. Y buddsoddiadau pellach a amlinellir uchod, a’r camau priodol eraill sydd wedi’u cymryd i ddod o hyd i arbedion yn y gyllideb er mwyn gwrthbwyso’r diffygion a ysgwyddwyd gan y ddau fwrdd iechyd yn 2015 i 2016, sydd i’w diolch am hynny.