Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

 

Pleser mawr yw cael gwneud y cyhoeddiad hwn ynghylch penodi ein hail Gomisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru. Yr ymgeisydd llwyddiannus yw Sarah Rochira. Ar hyn o bryd hi yw cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru, ac mae wedi dal y swydd honno er 2008.

Wrth benodi’r Comisiynydd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnull panel o bobl hŷn, a enwebwyd gan aelodau o’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol Pobl Hŷn ar gyfer Cymru ac a oedd yn cynrychioli oedrannau a chefndiroedd amrywiol. Cynhaliodd y panel ei gyfweliadau a’i broses ddethol ei hun, gan brofi gallu’r ymgeiswyr ar y rhestr fer i uniaethu â bywydau bob dydd pob mathau o bobl hŷn yng Nghymru. Wedi hynny, fe wnaeth dau o’i aelodau ymuno â’r panel dethol ffurfiol gan gyfrannu’n llawn at ei benderfyniadau. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r holl aelodau am roi mor hael o’u hamser a’u profiad wrth gyfrannu at y broses benodi. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Aelodau Cynulliad o’n gwahanol bleidiau gwleidyddol, ynghyd â’r ddau aelod o’r panel pobl hŷn, a oedd yn rhan o’r panel cyfweld ffurfiol yr oeddwn i’n gadeirydd arno.

Hoffwn gydnabod gwaith Ruth Marks MBE, y Comisiynydd Cyntaf, yn sefydlu Comisiwn cadarn, ac rwy’n dymuno’n dda iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol.

Fel y Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd, mae Ruth wedi arwain y ffordd wrth fod yn eiriolwr ar ran pobl hŷn, ac mae wedi codi proffil y gwaith yr ydym ni’n ei wneud ar faterion pobl hŷn yn y gymuned ryngwladol. Mae Ruth wedi sefydlu’r Comisiwn Pobl Hŷn cyntaf yn y byd ac wedi gosod y seiliau ar gyfer y dyfodol. Bydd yn gadael gwaddol yr wyf i’n hyderus y bydd ein Comisiynydd newydd yn adeiladu arno.

Rwy’n llongyfarch Sarah ar ei phenodiad ac yn ei chroesawu’n gynnes i’r swydd bwysig hon. Rhaid i ni werthfawrogi ein pobl hŷn yn fwy, a mynd ati’n egnïol i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran. Rhaid i ni herio ystrydebau, agweddau ac arferion annheg a hen ffasiwn sy’n cael effaith andwyol ar bobl hŷn. Rwy’n siŵr y bydd ein comisiynydd newydd yn diffinio ei swydd yn ei ffordd ei hun, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed rhagor am y cynnydd y bydd yn ei wneud yn y rôl unigryw a heriol hon.  

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.