Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Sefydlwyd Cymwysterau Cymru o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 ac mae rôl bwysig gan y Bwrdd yn sicrhau’r canlynol i Gymwysterau Cymru:
- arweiniad effeithiol
- cyfeiriad strategol clir
- sicrhau ei fod yn ymgymryd â’i weithgareddau yn effeithiol ac yn effeithlon, ac yn unol â’i nodau, ei amcanion a’i dargedau.
Ym mis Ebrill 2017, cytunais i benodi David Jones a Dr Arun Midha i Fwrdd Cymwysterau Cymru.
Dechreuodd David Jones ei yrfa fel Pennaeth Technoleg i Aspro Travel Group yng Nghaerdydd ac aeth ymlaen i sefydlu nifer o gwmnïau technoleg, gan gynnwys Travelink Systems Limited, Tigerbay Software Limited yn ogystal â Westgate Cyber Security, ac ef yw’r Cyfarwyddwr presennol yno.
Cafodd ei benodi i Banel Sector TGCh Llywodraeth Cymru yn 2011 gan roi cyngor i Weinidogion Cymru ar ein diwydiannau digidol. Gweithiodd hefyd fel Ymgynghorydd Digidol Strategol i Lywodraeth Cymru yn 2015.
Dechreuodd Dr Arun Midha ei yrfa yn gweithio i Banc Lloyds drwy gynllun i ddechreuwyr a oedd newydd raddio, cyn cael ei benodi'n Gynghorydd Masnach a Diwydiant i Awdurdod Hybu Iechyd Cymru o 1990-1994. Rôl weithredol ddiweddaraf Arun oedd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu'n gweithio fel Cyfarwyddwr Strategaeth ac Adnoddau yn Ysgol Addysg Feddygol a Deintyddol i Raddedigion.
Mae wedi datblygu portffolio o rolau fel aelodau anweithredol ac aelodau lleyg ym meysydd rheoleiddio, safonau, llywodraethu ac addysg. Tan yn ddiweddar, fe fu'n aelod lleyg o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, aelod annibynnol o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, ac yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ar hyn o bryd, mae Arun yn Gadeirydd Adolygiadau Ôl-weithredol o Ofal Iechyd Parhaus yng Nghymru, yn archwilydd achosion ar ran Coleg Brenhinol y Milfeddygon; yn aelod lleyg o bwyllgor ymddygiad proffesiynol Bwrdd Safonau'r Bar, yn aelod lleyg o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol, ac yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Dechreuodd David Jones ei swydd ar 15 Mai 2017. Bydd David yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r Bwrdd am y defnydd o dechnoleg ddigidol a diogelwch corfforaethol o’i rolau yn y sector TG, a thrwy ei waith gyda Llywodraeth Cymru.
Bydd Arun Midha’n dechrau yn ei swydd ar 22 Mai 2017. Bydd profiad eang Arun o reoleiddio’n helpu’r Bwrdd i ymgymryd â’i waith rheoeiddio.
Bydd y penodiadau hyn am gyfnod o dair blynedd.
Mae’n bleser gen i gyhoeddi penodiadau David Jones a Dr Arun Midha i Fwrdd Cymwysterau Cymru.