Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Gwnes addewid ym mis Rhagfyr i ddarparu'r newyddion diweddaraf i chi ynghylch Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ac ynghylch y cyfleoedd i'r sector addysg gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Academi.
Mae'n bleser cael dweud ein bod nawr yn hysbysebu am aelodau bwrdd yr Academi, a'n bod yn chwilio am Gadeirydd ac Aelodau Bwrdd anweithredol eraill. Bydd hwn yn fwrdd bach, ystwyth, wedi'i recriwtio ar sail sgiliau'r aelodau a bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae drwy gefnogi'r Prif Weithredwr pan fydd wedi'i benodi, a thrwy sicrhau bod yr Academi'n cael ei llywodraethu'n effeithiol.
Bydd y cyfnod ymgeisio'n para o heddiw hyd at 11 Chwefror, a bydd y Cadeirydd a'r Bwrdd wedi'u penodi erbyn dechrau mis Mai, yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus.