Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd tymor y Senedd hwn yn dod â heriau a chyfleoedd newydd i’n rhan.

Dros y 15 mis diwethaf, rydym wedi neilltuo ein holl egni a’n sylw i ymateb i’r pandemig – argyfwng iechyd y cyhoedd ac economaidd sydd wedi taflu cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd. 

Diolch i waith caled ac ymdrechion pawb ym mhob cwr o Gymru, a’r ymdrech aruthrol i frechu pobl rhag y feirws dychrynllyd hwn, mae ein dyfodol yn edrych yn llawer mwy disglair heddiw.

Adfer sy’n cael blaenoriaeth gennym yn awr – yr adferiad yn dilyn y pandemig ac ailadeiladu Cymru yn wlad gryfach, gwyrddach a thecach i bawb.

Mae fy Llywodraeth Cymru newydd yn dod â phrofiad a thalent newydd ynghyd ar gyfer siapio ein dyfodol a chreu’r swyddi a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnom wrth inni symud i’r bennod nesaf yn ein hanes.

Bydd yr amgylchedd wrth wraidd ein holl benderfyniadau. Nid yw’r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu tra’r ydym wedi bod yn delio â’r pandemig. Mae Cymru’n wlad odidog sydd ag asedau naturiol helaeth a fydd yn helpu i sbarduno ein hadferiad a chreu swyddi’r dyfodol.

Yn fy llywodraeth newydd, bydd gan faes yr amgylchedd nid yn unig sedd wrth fwrdd y Cabinet, bydd yn cael ei ystyried ym mhopeth a wnawn.

Mae’r Cabinet newydd yn barod i ddechrau arni i arwain Cymru ar y daith tuag at adferiad wedi’r pandemig hir hwn, sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd. Mae’r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru.

Bydd ein holl ymdrechion ac egni yn mynd i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na’i adael ar ôl.

Y Llywodraeth Cymru newydd

Mark Drakeford                  Y Prif Weinidog

Mick Antoniw                     Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Rebecca Evans                 Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Vaughan Gething               Gweinidog yr Economi

Dawn Bowden                   Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Lesley Griffiths                   Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Jane Hutt                           Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Hannah Blythyn                 Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Julie James                       Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Lee Waters                        Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Jeremy Miles                     Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Eluned Morgan                  Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan                      Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle                    Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant