Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ddiweddar, rhoddais ddatganiad ar y cynnydd arbennig sy’n cael ei wneud gan Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol  Cymru newydd yn dilyn adolygiad Mathias. Yn y datganiad hwnnw, nodais fod Llywodraeth Cymru yn y broses o recriwtio Prif Weithredwr parhaol ar y Comisiwn yn dilyn cyfnod o Ysgrifenyddion dros dro. 


Gallaf roi gwybod i Aelodau fy mod wedi ystyried argymhelliad panel dewis ymgeiswyr a sefydlwyd i ddewis Prif Weithredwr y Comisiwn. Ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Comisiwn, gallaf gytuno ag argymhelliad y panel ac rwyf wedi penodi Steve Halsall yn Brif Weithredwr y Comisiwn. 


Hyderaf y bydd profiad Mr Halsall yn hynod werthfawr wrth i’r Comisiwn gyflawni ei waith o dan y fframwaith cyfreithiol newydd a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.