Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn falch i gyhoeddi mai Keith Bush CF fydd Llywydd cyntaf Tribiwnlys y Gymraeg.

Mae penodi Mr Bush yn Llywydd y Tribiwnlys yn rhan annatod o’r broses o sefydlu safonau ar gyfer y Gymraeg. Bydd y Tribiwnlys yn clywed apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r safonau hyn.

Rwyf wedi gwneud y penodiad hwn yn unol â Rheoliadau Tribiwnlys y Gymraeg (Penodi) 2013, sy’n amlinellu’r gofynion ar gyfer penodi Llywydd ac aelodau eraill y Tribiwnlys. Cynhaliwyd y broses benodi gan banel annibynnol, sef Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman CF (Cadeirydd); Libby Arfon-Jones (Uwch Farnwr Cyswllt y Tribiwnlys); a’r Athro Noel Lloyd (y Comisiwn Penodiadau Barnwrol). Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r panel am fod mor drwyadl.

Roedd fy mhenderfyniad yn seiliedig ar argymhelliad y panel a sylwadau’r ddau yr ymgynghorais â nhw yn dilyn y cyfweliad – Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a’r Arglwydd Ustus Stephen Richards.

Mae Mr Bush wedi gweithio fel bargyfreithiwr ers dros 30 o flynyddoedd, ac fe’i penodwyd yn Gwnsler anrhydeddus i’r Frenhines yn 2014 i gydnabod ei gyfraniad i ddatblygu a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth y proffesiwn o gyfraith Cymru. Mae’n gwbl rugl yn y Gymraeg ac, ar hyn o bryd, mae’n ddarlithydd rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gyfarwyddwr Cronfa Cymru’r Gyfraith.

Mae’r penodiad hwn yn golygu y gall y gwaith ddechrau nawr i benodi aelodau sy’n gyfreithiol gymwys ac aelodau lleyg i’r Tribiwnlys. Bydd y Tribiwnlys yn cael ei sefydlu i gyd-fynd gydag amserlen y safonau ar gyfer y Gymraeg.