Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Nod rhaglen Cymraeg i Oedolion yw darparu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn eu cymunedau lleol, yn eu gweithleoedd neu i’w ddefnyddio gyda'u teuluoedd. Mae pwysigrwydd parhaus Cymraeg i Oedolion o ran cynnig cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn cael ei bwysleisio yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth. Mae'r rhaglen hefyd yn bwysig yng nghyd-destun Strategaeth Iaith y Llywodraeth, Iaith Fyw:Iaith Byw a’r nod o weld yr iaith yn ffynnu.

Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddwyd Codi golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion. Paratowyd yr adroddiad gan grŵp annibynnol, a gadeiriwyd gan Dr Haydn Edwards, a gafodd ei sefydlu i adolygu darpariaeth Cymraeg i Oedolion o ran cyrhaeddiad dysgwyr, cynnwys y cwricwlwm, strwythurau darparu a gwerth am arian. 

Croesawodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad a'i argymhellion, gan dderbyn y mwyafrif ohonynt yn llawn yn Rhagfyr 2013.  Gellir gweld ymateb manwl i argymhellion y Grŵp Adolygu ar wefan Llywodraeth Cymru.

Prif argymhelliad y Grŵp Adolygu oedd sefydlu Endid Cenedlaethol i fod yn gyfrifol am arwain maes Cymraeg i Oedolion yn strategol yn genedlaethol. Yn dilyn cystadleuaeth grant agored, mae’n bleser gen i heddiw gyhoeddi mai’r sefydliad buddugol, a fydd yn gartref i’r Endid Cenedlaethol newydd ac yn arwain maes Cymraeg i Oedolion i’r dyfodol yw Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 

Rwyf yn ffyddiog y bydd pwyslais Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar brofiad y dysgwr a’i gweledigaeth hir-dymor ar gyfer maes Cymraeg i Oedolion yn arwain at newidiadau cyffrous. Mae sicrhau cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn ymrwymiad allweddol i Lywodraeth Cymru ac edrychaf ymlaen at gydweithio â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i symud y maes ymlaen.