Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gen i gyhoeddi penodiad dau Gynghorydd Cenedlaethol newydd ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd Yasmin Khan a Nazir Afzal yn dechrau ar eu gwaith ar 22 Ionawr, gan rannu'r swydd a ysgwyddwyd mor fedrus gan Rhian Bowen-Davies nes iddi gamu o'r neilltu yn yr hydref.

Rhyngddynt, gall y ddau a benodwyd gynnig ystod eang iawn o brofiad, gwybodaeth a sgiliau i'r swydd. Yasmin Khan yw cyfarwyddwr yr Halo Project, elusen sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd. Enillodd y prosiect wobr elusen fach y flwyddyn 2017 yng Ngwobrau Elusennau Gogledd-ddwyrain Lloegr. Mae Yasmin wedi bod yn gweithio gyda menywod a chymunedau i roi sylw i anghydraddoldebau ym maes cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Arweiniodd ei gwaith at ddatblygu'r grŵp craffu cyntaf ar achosion o briodas dan orfod/trais ar sail anrhydedd yn y DU.

Mae Nazir Afzal wedi cael gyrfa nodedig gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn fwy diweddar fel Prif Weithredwr Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae wedi erlyn rhai o'r achosion uchaf eu proffil yn y wlad, a bu'n arwain polisi Cymru a Lloegr ar gam-drin plant, troseddau casineb gan gynnwys ar sail anabledd, trais yn erbyn menywod a thrais ar sail anrhydedd.

Bydd Yasmin a Nazir yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Byddant hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr a phartneriaid eraill i wella'r ffordd o gynllunio, comisiynu, a darparu gwasanaethau.

Mae'r sector wedi bod yn aros yn eiddgar am y penodiad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r ddau Gynghorydd Cenedlaethol newydd.