Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil yr ymgyrch penodiadau cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd wedi cael eu penodi i Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: Rheon Tomos, Mary Champion and Jim Scopes.

Rhyngddynt, maent yn dod â chyfoeth o brofiadau amrywiol a gwerthfawr i Fwrdd yr Awdurdod. Mae Rheon Tomos yn gyfrifydd cymwysedig, ac mae wedi dal swyddi uwch yn y Comisiwn Archwilio a Deloitte, cyn gweithio’n annibynnol ac fel partner yn TDE Associates. Mae gan Mary Champion brofiad helaeth ym meysydd cyflawni, sicrwydd, llywodraethu, ac arweinyddiaeth fasnachol, gyda’r llywodraeth a hefyd gyda sefydliadau yn y sector preifat.  Mae gan Jim Scopes dros 30 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, fel ymgynghorydd rheoli a gwas sifil. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw ac aelodau eraill o’r Bwrdd. 

Bydd eu tymor gwasanaethu yn parhau hyd at 3 blynedd (o’r penodiad cychwynnol), gyda’r posibilrwydd o wasanaethu am ail dymor. Telir cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y penodiadau hyn.