Vaughan Gething AS, Y Prif Weinidog
Rwy'n falch o gyhoeddi fy mhenderfyniad i benodi Rhian Bowen-Davies yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Dechreuodd y broses recriwtio ym mis Ionawr 2024. Cafodd maes cryf o ymgeiswyr a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer gyfarfod â phanel rhanddeiliaid o bobl hŷn a phanel cyfweld dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd a ffefrir hefyd yn mynd i wrandawiad cyn penodi â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Rhian oedd y gyntaf i ymgymryd â rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar Sail Rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n cael ei chydnabod fel Cadeirydd arbenigol Adolygiadau o Laddiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn. Mae gan Rhian brofiad helaeth o weithio ar draws sectorau yn ffurfio polisïau ac yn ysgogi gwelliannau, ac rwy’n hyderus y bydd yn hyrwyddwr dylanwadol ac yn eiriolwr cryf dros hawliau pobl hŷn.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn yn 2008 i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae’r naill gomisiynydd ar ôl y llall wedi cymryd safiad cryf yn erbyn rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran a hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd presennol, Heléna Herklots.
Mae gwaith Heléna, yn enwedig yn ystod y pandemig, wedi galluogi i leisiau’r bobl hŷn hynny sydd wirioneddol ar y cyrion gael eu clywed a hefyd wedi sicrhau eu bod yn cael dylanwad er gwell ar bolisïau ac arferion. Mae angerdd Heléna am greu Cymru oed-gyfeillgar wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith hwn gyda Rhian. Ein gweledigaeth ar y cyd yw Cymru oed-gyfeillgar sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio’n dda. Rydyn ni am weld Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl hŷn, nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies:
“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Gan weithio gyda phobl hŷn, ac ar eu rhan, rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw’r nod. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’n bod ni’n cefnogi ac yn datblygu gweledigaeth Cymru i ddod yn genedl oed-gyfeillgar.”
Bydd cyfnod Heléna Herklots yn y swydd yn dod i ben ym mis Awst 2024.