Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser mawr gennyf wneud y datganiad hwn ar benodi ein trydydd Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru. Yr ymgeisydd llwyddiannus yw Heléna Herklots CBE a fydd yn dechrau yn ei rôl ar 20 Awst. Ar hyn o bryd, mae Heléna yn Brif Weithredwr Carers UK, rôl y mae wedi ei chyflawni ers 2012.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd y rôl ac rydym wedi rhoi iddi ystod eang o bwerau er mwyn helpu i weithredu'r newidiadau y mae pobl hŷn yn awyddus i'w gweld.

Mae'r broses recriwtio ar gyfer penodi Comisiynydd newydd yn cydymffurfio â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus sy'n nodi'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i bob penodiad cyhoeddus. Fel rhan o'r broses hon, aeth panel trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad ati i asesu sgiliau a phrofiadau ymgeiswyr yn erbyn gofynion y swydd. Hefyd, rhoddwyd cyfle i bobl hŷn gymryd rhan yn ystod pob cam o'r broses recriwtio. Bu panel o gynrychiolwyr o wahanol rannau o'r sector yn cyfweld yr ymgeiswyr a oedd ar y rhestr fer, gan brofi eu gallu yn erbyn realaeth bywyd i bobl hŷn sydd mewn sefyllfaoedd gwahanol yng Nghymru.

Roedd y ddau banel yn gweithredu o dan gadeiryddiaeth annibynnol, a defnyddiais gasgliadau'r ddau wrth ddod i benderfyniad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses recriwtio, gan roi o'u hamser a'u profiad yn hael, gan gynnwys yr holl ymgeiswyr sydd wedi sicrhau y bu hwn yn ymarfer cystadleuol.

Hoffwn ganmol Sarah Rochira ar y gwaith gwych y mae wedi ei gyflawni yn rhinwedd ei swydd fel y Comisiynydd presennol. Mae wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo buddiannau pobl hŷn ac wedi codi proffil y gwaith yr ydym yn ei wneud ar faterion pobl hŷn yn y gymuned ryngwladol. Bydd hi'n gadael etifeddiaeth y bydd ein Comisiynydd newydd yn siŵr o adeiladu arni. Rwy'n dymuno'n dda iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol.


Hoffwn longyfarch Heléna ar ei phenodiad a'i chroesawu'n gynnes i'r rôl bwysig hon. Mae'n rhaid inni werthfawrogi pobl hŷn yn fwy, gan fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran. Mae'n rhaid inni hefyd herio stereoteipiau, agweddau, ac arferion hen ffasiwn ac annheg sy'n cael effaith wael arnynt. Rwy'n siŵr y bydd ein Comisiynydd newydd yn diffinio ei rôl ei hunan yn ei ffordd ei hunan, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed am hynt ei gwaith yn y rôl unigryw a heriol hon.