Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn proses gystadleuol deg ac agored, rwy’n falch o gyhoeddi bod Jonathan Morgan wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o bedair blynedd.
Mae gan Mr Morgan brofiad helaeth o weithio gyda’r sector tai a gofal cymdeithasol. Ers mis Ionawr 2022, mae ef wedi bod yn aelod annibynnol o Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn y sector iechyd.
Mae hefyd yn gyn-Aelod y Cynulliad ac yn gyn-Gadeirydd Pwyllgor Iechyd, Llesiant a Llywodraeth Leol.
Yn sgil ei wybodaeth helaeth yn y maes hwn, rwy’n croesawu penodi Jonathan Morgan yn gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Hyderaf y bydd yn defnyddio ei brofiad i gydweithio â phartneriaid er lles poblogaeth a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef wrth inni barhau i wella gwasanaethau iechyd ar gyfer cymunedau lleol.
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wrandawiad cyn penodi ar 2 Mawrth a daeth y pwyllgor i’r casgliad, ar sail ei berfformiad a'i ymatebion i gwestiynau, nad oeddent yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai Mr Morgan gael ei benodi i’r rôl.
Yn amodol ar wiriadau cyn penodi perthnasol, bydd Mr Morgan yn ymgymryd â’i rôl ar 1 Ebrill 2023. Y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y rôl hon yw £69,840 y flwyddyn, yn seiliedig ar 15 diwrnod y mis.
Mae'r penodiad hwn wedi'i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol. Yn ogystal, ac yn unol ag Egwyddorion Nolan, mae Mr Morgan wedi datgan nad oes ganddo unrhyw ymwneud â gweithgarwch gwleidyddol.
Hoffwn hefyd ddiolch i Emrys Elias am gyflawni rôl cadeirydd interim ers mis Hydref 2021. Mae ef wedi arwain a chefnogi’r sefydliad ac yn ystod y cyfnod hwn llwyddodd y bwrdd iechyd i gael ei isgyfeirio o fesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth.