Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi, ar ôl ymgyrch recriwtio lwyddiannus, fod Mr Simon Jones wedi ei benodi yn Gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a bydd yn dechrau yn ei rôl ar 1 Hydref 2021. Bydd cyfnod Mr Jones yn y swydd yn rhedeg am bedair blynedd tan 30 Medi 2025.
Bydd Mr Bob Hudson OBE, y Cadeirydd Dros Dro, yn camu o’r neilltu ar 30 Medi 2021. Ymgymerodd Mr Hudson â’r swydd dros dro ym mis Tachwedd 2020, i oruchwylio'r broses o drosglwyddo staff a swyddogaethau o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i Iechyd Digidol a Gofal Cymru, yr Awdurdod Iechyd Arbennig a oedd newydd ei sefydlu.
Arweiniodd Mr Hudson y penodiad i'r Bwrdd, gan gynnwys aelodau anweithredol a gweithredol a sefydlu'r fframwaith llywodraethu. Rwy’n hynod ddiolchgar iddo am gamu i'r rôl hon ar adeg mor bwysig wrth i Iechyd a Gofal Digidol Cymru gael ei sefydlu, ac am osod y sylfeini y bydd Mr Jones yn adeiladu arnynt yn awr.
Bydd tymor Mr Jones yn y swydd yn dechrau ar 1 Hydref 2021. Bydd ei benodiad yn cael ei dalu ar gyfradd flynyddol o £43,326 am ymrwymiad amser o 14.5 diwrnod y mis. Nid yw Mr Jones wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
Mae Mr Jones wedi cael profiad sylweddol ar lefel Bwrdd. Mae wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector gan ddechrau ar ei yrfa yng Nghymru yn Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol ac yna TUC Cymru. Arweiniodd Ganolfan Cydweithredol Cymru a ddaeth yn sefydliad datblygu cydweithredol mwyaf y DU.
Mae ganddo brofiad helaeth mewn rolau arwain yn GIG Cymru, yn gyntaf fel aelod o Awdurdod Iechyd De Morgannwg, yna fel Is-gadeirydd a Chadeirydd Awdurdod Iechyd Bro Taf, ac, hyd at fis Rhagfyr 2008, ef oedd Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n Gadeirydd arweiniol yr Ymddiriedolaeth a hefyd yn Gadeirydd Conffederasiwn GIG Cymru.
Mr Jones oedd pennaeth recriwtio'r sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Odgers Berndtson, cyn iddo ddod yn Bennaeth Polisi yng Nghymru cyntaf Marie Curie, prif elusen y DU ym maes diwedd oes, a dod yn Gyfarwyddwr Polisi'r DU yn ddiweddarach. Mae Mr Jones wedi bod yn aelod o fwrdd y Comisiwn Elusennau ac yn aelod o bwyllgor Cymru ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda Mr Jones ac rwy'n hyderus y bydd ei brofiad yn ei alluogi i lywio Iechyd a Gofal Digidol Cymru drwy gyfnod pwysig o sefydlu ac ysgogi trawsnewidiad digidol ym maes iechyd a gofal.