Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Dr Chris Jones yn Gadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae Dr Jones wedi cefnogi’r GIG ers amser maith, gan hyrwyddo integreiddio ar draws gwasanaethau a sectorau. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf o blaid y dull amlddisgyblaethol o ddarparu gofal iechyd. Rwyf wedi gofyn i Dr Jones fanteisio ar y cyfle yn y rôl allweddol hon gydag AaGIC i gefnogi proses wella ar draws ein gweithlu a’n gwasanaethau gofal a fydd yn ddewr ac yn radical. Bydd hyn yn helpu i gyflawni cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sef Cymru Iachach.

Bydd AaGIC yn gorff iechyd statudol newydd pan gaiff ei roi ar waith ym mis Hydref eleni. Ei rôl fydd cynllunio a datblygu’r gweithlu iechyd ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â’r byrddau iechyd i wella canlyniadau i gleifion.

Bydd Dr Jones yn arwain Bwrdd sy’n cynnwys chwe aelod annibynnol, a gafodd eu cyhoeddi mewn Datganiad gan y Gweinidog ym mis Ionawr eleni, a phum aelod gweithredol a fydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.