Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o gyhoeddi mai Dr Susannah Bolton sydd wedi'i phenodi yn gadeirydd allanol annibynnol i oruchwylio'r adolygiad statudol o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae'r penodiad hwn yn gam allweddol ymlaen o ran ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â llygredd yng Nghymru yn gynaliadwy ar gyfer busnesau fferm a'r amgylchedd naturiol. Mae'r adolygiad yn rhan annatod o ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i drafod gyda'r gymuned ffermio i weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan dargedu'r gweithgareddau hynny yr ydym yn gwybod eu bod yn achosi llygredd.

Ynglŷn â'r cadeirydd

Mae Dr Bolton yn Ddirprwy Brifathro Menter a Chyfnewid Gwybodaeth ar gyfer Coleg Gwledig yr Alban, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu dulliau a arweinir gan genhadaeth i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cynhyrchu bwyd a'r economi naturiol. Tan fis Rhagfyr 2021, roedd yn Gyfarwyddwr Ymchwil ar gyfer y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), yn gyfrifol am raglen ymchwil gymhwysol ar ran ffermwyr a phroseswyr ar draws sectorau âr, garddwriaeth, anifeiliaid sy'n cnoi cil a phorc y DU. 

Cyn hynny, roedd Dr Bolton yn Gyfarwyddwr Cyfnewid Gwybodaeth a goruchwyliodd y gwaith o ddatblygu Platfform Rhagoriaeth Fferm AHDB, sef rhwydwaith o ffermwyr o dros 70 o fusnesau fferm, sy'n darparu cyfleoedd cyfnewid gwybodaeth, dysgu rhwng cymheiriaid a meincnodi. Mae ganddi PhD mewn Amaeth-goedwigaeth Drofannol a threuliodd 3 blynedd yn gweithio gyda'r darparwr ymchwil EMBRAPA yng Ngogledd-ddwyrain Brasil. Wedi hynny bu'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol a chyfathrebu allanol yn Rothamsted Research. 

Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol

Cyflwynwyd y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) ym mis Ebrill 2021 ac maent yn nodi dull Cymru gyfan o leihau effeithiau niweidiol llygredd o weithgareddau amaethyddol ar ein hamgylchedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol, gan gynnwys y sector ei hun. Mae'r broses weithredu wedi'i chyflwyno'n raddol dros gyfnod o bedair blynedd a bydd y set derfynol o fesurau yn dod i rym erbyn diwedd y flwyddyn. Cyflwynwyd Dull Rheoli Maethynnau Uwch 12 mis ar gyfer blwyddyn galendr 2024.  

Adolygiad statudol

O leiaf bob pedair blynedd, rhaid adolygu effeithiolrwydd y mesurau sydd wedi'u gosod gan y Rheoliadau o ran lleihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol ac, os gwelir bod angen, eu diwygio. Mae gwaith paratoi ar gyfer yr adolygiad wedi'i wneud a bydd yr adolygiad, a fydd yn cael ei oruchwylio gan Dr Bolton, yn rhoi cyfle gwych i bwyso a mesur a gwrando ymhellach ar yr ystod eang o safbwyntiau ar effeithiolrwydd y rheoliadau. Fel rhan o hyn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys ar y cynigion ynghylch mesurau amgen, yn unol ag ysbryd gwir bartneriaeth.

Mae disgwyl adroddiad terfynol ac argymhellion o'r adolygiad i Weinidogion Cymru erbyn diwedd mis Mawrth 2025. 

Rwy'n rhoi pwys mawr ar yr adolygiad hwn ac rwy'n ddiolchgar iawn i Dr Bolton am ymgymryd â rôl cadeirydd annibynnol. Mae penodiad Dr Bolton yn garreg filltir bwysig o ran sicrhau bod yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal mewn ffordd gydweithredol a'i fod yn effeithiol wrth helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i ffermwyr a'r amgylchedd yng Nghymru. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.