Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn Ebrill eleni, gwneuthum ddatganiad am ofal heb ei drefnu a nodais gyfres o gamau i’w cymryd ar unwaith er mwyn ymateb i’r pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru, a’r angen i ddod ag ymdeimlad newydd o bwrpas a brys cenedlaethol i’r agenda bwysig hon.

Yn y datganiad, cyhoeddais y byddai arweinydd clinigol cenedlaethol newydd ar gyfer gofal heb ei drefnu yn cael ei benodi. Mae’n bleser gennyf hysbysu Aelodau’r Cynulliad fod Dr Grant Robinson wedi ei benodi i arwain y gwaith hwn.

Ar hyn o bryd mae Dr Robinson yn Gyfarwyddwr Meddygol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent, ac mae’n gweithio hefyd fel Meddyg Ymgynghorol mewn Haematoleg Glinigol.

Er mai o fewn gwasanaethau brys a gofal eilaidd yn bennaf y mae effaith pwysau cynyddol i’w theimlo, mae’r ateb i lawer o’r pwysau hyn i’w gael ar draws yr holl gyfundrefn.

Credaf fod gan Dr Robinson y profiad a’r hygrededd clinigol i gynnig yr arweinyddiaeth angenrheidiol i weithio â chydweithwyr ar draws y rhyngwyneb rhwng y GIG, Awdurdod Lleol a’r Trydydd Sector.

Mae cyfraniad y partneriaid hyn yn allweddol bwysig ar gyfer datblygiad gwasanaethau i sicrhau fod pobl  yn cael y gofal cywir, yn y man cywir ar yr adeg gywir. Wrth weithio fel hyn, rwyf yn hyderus y caiff pwysau ar ofal heb ei drefnu eu lleihau law yn llaw â chreu sylfeini cryf i wella’r sefyllfa ar gyfer y dyfodol.

Bydd Dr Robinson yn cychwyn ar ei waith ym mis Medi.

Mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.