Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews AC, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 24 Mawrth, cyhoeddais y byddwn yn sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus anstatudol. Wedi hyn, cyhoeddais fod Gill Lewis wedi cael ei phenodi’n gadeirydd, a bellach gallaf gadarnhau aelodau’r Comisiwn yn dilyn proses benodi lawn ac agored.  

Yn ymuno â Gill mae Sally Ellis, Margaret Foster, Graham Jones, Martin Mansfield a Harry Thomas. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion ar 15 Medi ynghylch materion gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus mewn Datganiad Gweinidogol Llafar.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Manylion bywgraffiadol

Sally Ellis

Cefndir mewn llywodraeth leol a datblygu cymunedol sydd gan Sally. Yn dilyn gyrfa mewn datblygu cymunedol yn y trydydd sector, ymunodd Sally â Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Clwyd ym 1992, gan ddod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol yng Nghonwy yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1995 ac yna’n gyfarwyddwr gyda Chyngor Sir Ddinbych yn 2003.

Roedd Sally yn Gyfarwyddwr Corfforaethol yn Sir Ddinbych am 12 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol statudol, ac yn arweinydd corfforaethol ar wahanol adegau ar gyfer nifer o wasanaethau eraill, gan gynnwys tai, hamdden, TG, adnoddau dynol a’r cynllun datblygu lleol.

Ers gorffen gwaith llawn amser yn 2014, mae Sally wedi bod yn gynghorydd i Cyngor Ar Bopeth yn Ninbych ac yn Is-gadeirydd Cymdeithas Tai Gogledd Cymru. Hefyd, cadeiriodd Sally y Grŵp Llywio Gwella Strategol i Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn cynghori’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar drefniadau a blaenoriaethau gwella gofal cymdeithasol.

Mae gan Sally radd mewn Saesneg o Brifysgol Rhydychen a chymwysterau ôl-raddedig mewn gweinyddiaeth gymdeithasol ac arweinyddiaeth ar gyfer cydweithredu o Brifysgol Bangor.

Margaret Foster

Ar ôl graddio ym 1973, gweithiodd Margaret yn y GIG yng Nghymru o 1974 nes iddi ymddeol yn 2010. Fel Prif Weithredwr y GIG am 14 mlynedd, arweiniodd ar uno nifer o sefydliadau, gan gynnwys sefydlu Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn 2008.

Mae wedi bod yn Aelod o Fwrdd Prifysgol Morgannwg, Sgiliau Iechyd a Chymdeithas Adeiladu Principality, yn Gomisiynydd Cydraddoldeb GIG Cymru, ac yn Gomisiynydd Llywodraeth Cymru i Gyngor Ynys Môn.

Yn 2012, cafodd ei phenodi’n Gadeirydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, gan gadw ei diddordeb mewn datblygu sefydliadol a materion adnoddau dynol yn y GIG a gwasanaeth cyhoeddus ehangach Cymru. Mae hi hefyd yn aelod o’r Bwrdd Dewis Gyrfa/Career Choices.

Graham Jones

Mae Graham Jones MA yn Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ac mae ganddo brofiad helaeth o reoli newid a gweithio gydag undebau llafur. Gweithiodd mewn nifer o rolau gwasanaethau rheoli ac adnoddau dynol mewn awdurdodau lleol cyn cael ei benodi’n Bennaeth Personél Strategol yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystod yr ad-drefnu llywodraeth leol diwethaf yng Nghymru.

Mae Graham wedi bod yn gadeirydd ar y Rhwydwaith Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol llywodraeth leol ddwywaith, ac mae wedi cynrychioli cyfarwyddwyr adnoddau dynol awdurdodau lleol Cymru mewn nifer o rolau cenedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â materion gwella adnoddau dynol, gwasanaethau cymdeithasol a gweithlu ysgolion. Roedd Graham yn gynghorydd adnoddau dynol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am nifer o flynyddoedd hyd at 2014.

Mae’n eiriolwr cryf o blaid partneriaeth gymdeithasol rhwng cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus ac undebau llafur, ac mae wedi dadlau’n helaeth o blaid hyn fel aelod o Gyngor Cyswllt Cymru ar gyfer llywodraeth leol a Phwyllgor Gweithredol y Cyngor Cyswllt. Roedd yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gyfer Llywodraeth Cymru rhwng 2012 a 2014.

Ar ôl gadael Cyngor Castell-nedd Port Talbot, daeth yn Gyfarwyddwr Strategol Adnoddau Dynol ar gyfer consortiwm gwella rhanbarthol ERW ar gyfer Canolbarth a De-orllewin Cymru. Ar hyn o bryd, mae Graham yn gwneud gwaith ymgynghori adnoddau dynol, yn bennaf ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae gan Graham brofiad helaeth hefyd o gynllunio brys aml-asiantaeth a gweithgarwch argyfyngau sifil ar lefel leol a rhanbarthol. Roedd yn aelod o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De ac yn Gadeirydd ar Fwrdd Cydnerthedd Awdurdodau Lleol De Cymru rhwng 2012 a 2014.

Martin Mansfield

Penodwyd Martin Mansfield yn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru ym mis Awst 2008. Mae Martin wedi chwarae rhan flaenllaw yn y strwythurau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys bod yn gyd-ysgrifennydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu gwasanaethau cyhoeddus ac arweinydd undeb llafur y Cyngor Adfywio Economaidd. Mae wedi cadeirio a chymryd rhan mewn nifer o fyrddau cynghori Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflogaeth ieuenctid, caffael llywodraeth, polisi economaidd, a chyflogaeth a sgiliau.

Mae’n gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru.

Am dros 20 mlynedd, cyn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, roedd Martin yn swyddog undeb llafur llawn amser mewn nifer o ddiwydiannau, gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch a gwasanaethau iechyd. Cyn hynny, gweithiodd ym maes addysg bellach ac ymchwil sgiliau diwydiannol. Rhwng 2003 a 2005, roedd yn gynghorydd arbennig ar ddatblygu economaidd i’r Prif Weinidog a’r Cabinet.  

Mae gan Martin radd Meistr mewn Cysylltiadau Diwydiannol (gydag Economeg a’r Gyfraith), BA Cydanrhydedd mewn Hanes a Saesneg a diploma israddedig mewn Dulliau Ymchwil Gymhwysol.

Harry Thomas

Graddiodd Harry o Brifysgol Manceinion gyda gradd mewn Economeg, ac yna cymhwysodd i fod yn gyfrifydd gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Ne Cymru, cyn symud ymlaen i Gyngor Sir Swydd Gaer. Gweithiodd gyda chyn Awdurdod Dŵr Cymru a Chyngor Sir Gwynedd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, cafodd ei benodi’n drysorydd gyda Chyngor Gwynedd, a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr yn 2003 nes iddo ymddeol y llynedd.