Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym wedi ymrwymo'n gryf i wneud gwahaniaeth i brofiad siaradwyr Cymraeg drwy ein cynllun Mwy na geiriau.

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau, rwyf wedi sefydlu Bwrdd Cynghori Mwy na geiriau a fydd yn monitro ac yn craffu ar gynnydd yn erbyn y cynllun Mwy na geiriau. Yn dilyn proses o gystadleuaeth deg ac agored, rwy'n falch o gyhoeddi'r penodiadau canlynol i'r bwrdd newydd am y 5 mlynedd nesaf.

Cadeirydd

Elin Wyn - aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Bangor ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn natblygiad Ysgol Feddygaeth newydd Gogledd Cymru. Roedd hi'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac mae ganddi gyfoeth o brofiad cyfathrebu a marchnata a hanes blaenorol o weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid.

Aelodau

Dr Alwena Morgan - uwch ddarlithydd Biofeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe sydd hefyd wedi cael ei phenodi'n arweinydd y Gymraeg yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Llwyddodd i sefydlu darpariaeth Gymraeg ar gyfer cynlluniau gradd israddedig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys effaith gofal Cymraeg ar gleifion sy'n siarad Cymraeg.

Dona Lewis yw Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Creu siaradwyr Cymraeg newydd yw nod y Ganolfan, gan gyfrannu drwy hynny at wireddu uchelgais Cymraeg 2050. 

Dr Huw Dylan Owen yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ar y Gymraeg mewn gofal a gwasanaethau iechyd ac mae wedi gweithio i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, Ymddiriedolaeth Iechyd Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Powys. Mae wedi derbyn gwobr gan Lywodraeth Cymru am ei waith yn integreiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd.

Dr Olwen Williams - meddyg ymgynghorol sydd wedi gweithio ym maes Iechyd Rhywiol a meddygaeth HIV yng Ngogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Ar hyn o bryd mae hi ar secondiad i Addysg a Gwella Iechyd Cymru fel Cyfarwyddwr Cyswllt Arweinyddiaeth Glinigol. Hi yw Cadeirydd Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru.

Dr Rajan Madhok - dysgwr Cymraeg brwdfrydig. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Addysgu Prifysgol Wirral, yn Aelod Anweithredol gyda Llais (Corff Llais y Dinesydd), ac yn Llywodraethwr Cyngor gyda Choleg Cambria. 

Rhys Davies - Is-gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn. Cyn ymddeol bu'n ddeintydd yn Llangefni am dros 30 mlynedd a bu'n gweithio gyda'r gwasanaeth deintyddol cymunedol. Roedd hefyd yn Gadeirydd y Gymdeithas Ddeintyddol ac yn diwtor Ôl-raddedig Deintyddol ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru.

Teresa Owen - Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn Gadeirydd Fforwm Iaith Gymraeg y bwrdd iechyd. Cyn hyn bu'n Gyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

O ystyried gwybodaeth a sgiliau eang yr aelodau, rwy'n sicr y byddant yn defnyddio eu profiadau i helpu i fwrw ymlaen â'r nodau a'r camau gweithredu yng nghynllun Mwy na geiriau 2022-2027 ac i ddatblygu perthynas â phartneriaid allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd Cynghori wrth i ni barhau i anelu at sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau iechyd a gofal y maent eu hangen ac yn eu haeddu.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.