Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi recriwtio pum aelod newydd i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd eu swyddi yn dechrau ar 1 Tachwedd 2018.

Mae Catherine Brown a'r Athro Steve Ormerod wedi'u penodi am bedair blynedd, yn ogystal â Julia Cherret, Dr Rosie Plummer a'r Athro Peter Rigby sydd wedi'u penodi am dair blynedd. Byddant yn ymuno â phum aelod presennol y Bwrdd a'r Cadeirydd dros dro, a benodwyd yn ddiweddar, Syr David Henshaw.

Yr aelodau sy'n gadael y Bwrdd ar ddiwedd Hydref yw Dr Madeleine Havard, Andy Middleton, Dr Ruth Hall, Nigel Reader a Syr Paul Williams.  Maent bob un ohonynt wedi gwasanaethu am chwe mlynedd ar Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys pum mis cyn lansiad Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill 2013.

Mae tri person sy'n gallu siarad Cymraeg bellach ar y Bwrdd. Er mwyn cryfhau'r sgiliau hyn ar y Bwrdd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r Panel Cynghori ar Asesu i edrych eto ar y rhai hynny wnaeth ymgeisio ac a oedd yn rhugl yn y Gymraeg. Y bwriad yw penodi rhywun cyn diwedd y flwyddyn hon, gan olygu y bydd cyfanswm o 12 aelod ar y Bwrdd, gan gynnwys y Prif Weithredwr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli, cynnal a defnyddio adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ac rwy'n ystyried ei swyddogaeth a gwaith ei Fwrdd yn bwysig iawn. Dwi'n falch o gyhoeddi'r aelodau newydd hyn i helpu'r sefydliad yn eu gwaith pwysig.  Hefyd, hoffwn ddiolch i aelodau'r Bwrdd sy'n gadael am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd.

Syr David Henshaw: "Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda'r aelodau newydd hyn. Byddant hwy, gyda'r aelodau presennol, yn fy helpu yn fy swyddogaeth o gefnogi'r sefydliad hwn i adeiladu strwythurau a dulliau o weithio mwy effeithiol."