Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Mae’n bleser i gyhoeddi penodiad Rona Aldrich, Elin Maher a Gwyn Williams yn aelodau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Bydd y tri yn cychwyn ar eu gwaith ar 1 Ebrill 2021 am gyfnod o dair mlynedd.
Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers 40 mlynedd. Gyda gradd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, ei nod yn ystod ei gyrfa oedd sicrhau mynediad hwylus at wybodaeth a diwylliant o bob math i bawb mewn cymdeithas. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy. Ar ôl cyfnod o fod yn hunan-gyflogedig, mae erbyn hyn yn eistedd ar Bwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn Is-gadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru. Dros y blynyddoedd mae wedi dal nifer o swyddi yn lleol ac yn genedlaethol gan gynnwys i Lywodraeth Cymru ac wedi cynrychioli Cymru ar lefel y DU.
Mae Elin Maher yn ymgynghorydd iaith ac addysg llawrydd ers nifer o flynedd bellach. Mae wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i’w gwaith. Gan gychwyn fel athrawes ieithoedd uwchradd, gweithiodd Elin yn y sector gynradd fel athrawes ddosbarth ac fel athrawes ymgynghorol yn ogystal. Mae hefyd wedi gweithio yn y maes addysg bellach ac uwch yn goruchwylio myfyrwyr addysg. Bu’n gweithio i fudiadau Rhieni Dros Addysg Gymraeg, Menter Iaith Casnewydd ac i Gyngor Bwrdeistref Torfaen. Mae’n enedigol o Gwm Tawe ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Mae’n parhau i weithio’n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a’r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraethwraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol.
Wedi ei eni ym Mhwllheli a’i addysgu yn Wolverhampton, Bethesda, Aberystwyth a Preston, fe dreuliodd Gwyn Williams dros 25 mlynedd yn gweithio yn y cyfryngau. Bu’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg fel Cyfarwyddwr Hybu, Cyfathrebu a Gweinyddu gan ymuno ag S4C fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn 2015. Mae’n aelod anweithredol o fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru ac yn byw ym Methel ger Caernarfon.
Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:
“Hoffwn groesawu Rona, Elin a Gwyn i’r Panel Cynghori, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw. Mae gan y tri arbenigedd ar draws nifer o feysydd sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac rwy’n siŵr byddant yn gallu cynnig safbwyntiau amrywiol ac adeiladol i drafodaethau’r Panel Cynghori, a fydd o fantais i mi arwain fy mhenderfyniadau fel Comisiynydd.”
Mae’r penodiadau hyn yn cymryd lle tri o’r aelodau presennol sydd a’u tymor yn dod i ben sef Meinir Davies, Heledd Iago a Nick Speed ac hoffwn cymryd y cyfle i ddiolch i’r tri am eu cyfraniadau i waith y Panel Cynghori.
Diolchodd y Comisiynydd hefyd i’r tri am eu gwaith ar y panel:
“Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i Meinir, Heledd a Nick am eu cynghorion hwythau dros y chwe blynedd diwethaf. Mae cyfoeth eu cyfraniadau wedi llywio sawl polisi wrth fy ngwaith fel Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn ddymuno’n dda iddynt hwy yn y dyfodol.“
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy’n sefydlu’r Panel Cynghori, yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, i’r graddau bo hynny yn ymarferol, bod o leiaf tri ond dim mwy na phum aelod ar y panel ar unrhyw adeg. Bydd Rona, Elin a Gwyn yn ymuno â’r aelodau presennol sef Anne Davies a Nia Elias ar y panel.
Rwy’n hyderus bod gan y Comisiynydd ac aelodau’r panel, gyda’i gilydd, y gwybodaeth a’r profiad o’r materion sydd wedi’u amlinellu yn Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012 sef gwybodaeth a phrofiad o'r materion canlynol:
- llywodraethu corfforaethol,
- arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad,
- hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall,
- cysylltiadau cyhoeddus,
- cyfundrefnau rheoleiddiol,
- gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.
Ceir tâl am y penodiadau hyn.