Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi penodiad Anne Davies a Nia Elias yn aelodau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg, yn dilyn yn dilyn proses recriwtio agored a ddenodd ymgeiswyr safonol iawn.  Bydd y ddwy yn cychwyn ar eu gwaith ar 24 Chwefror 2020 am gyfnod o dair mlynedd.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sydd yn sefydlu’r Panel Cynghori, yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, i’r graddau bo hynny yn ymarferol, bod o leiaf tri ond dim mwy na phum aelod ar y panel ar unrhyw adeg.  Mae penodi Anne a Nia yn ychwanegol i’r tri aelod presennol sef Meinir Davies, Heledd Iago a Nick Speed yn cyfoethogi’r ystod o sgiliau a phrofiadau sydd gan y panel wrth iddynt roi cyngor i’r Comisiynydd ar faterion sydd yn berthnasol i’w swyddogaethau.

Mae Anne Davies yn Athrawes y Gyfraith a Pholisi Cyhoeddus yn y Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae ganddi arbenigedd ym maes ysgrifennu am gyfraith gyflogaeth ac am y gyfraith gyhoeddus, yn enwedig, am gytundebau llywodraeth. Bydd ei harbenigedd cyfreithiol yn werthfawr wrth gynghori’r Comisiynydd o ran arfer ei swyddogaethau. Cafodd Anne ei geni a’i magu yn Lloegr ac mae ganddi cysylltiadau teuluol gyda gogledd a gorllewin Cymru. Dysgodd Cymraeg fel oedolyn a bydd yn gallu cyfrannu safbwynt dysgwyr i drafodaethau’r Panel Cynghori.

Ar hyn o bryd mae Nia Elias yn arwain timoedd Dyngarwch a Phartneriaethau i Bloodwise (sydd i’w ail-enwi’n Blood Cancer UK yn fuan). Mae hi’n cyfuno'r swydd hon â'i swydd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cafodd ei geni yng Nghasnewydd, Gwent, ac mae wedi’u magu yng Nghaerfyrddin gyda chysylltiadau teuluol cryf â Cheredigion.  Mae Nia nawr yn byw gyda’i theulu ifanc yn Mro Morgannwg.  Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.  Ar ôl astudio hanes ym Mhrifysgol Warwick, datblygodd Nia yrfa mewn digwyddiadau corfforaethol a chodi arian yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Tŷ Somerset a’r Oriel Tate. Treuliodd Nia bum mlynedd fel Dirprwy Gyfarwyddwr Perfformiad Busnes yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn arwain timau cynhyrchu incwm a phrofiad cwsmeriaid. Bydd ei phrofiad ymarferol o arwain ar weithredu Safonau'r Gymraeg o fewn y sefydliad yn cynnig safbwynt pwysig i drafodaethau’r panel. Yn ei hamser sbâr, mae Nia yn codi arian ar gyfer ymchwil i ymwybyddiaeth a thrin ac atal clefyd y siwgr math 1. 

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg:

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Anne a Nia.  Rwy’n siŵr bydd y ddwy yn gallu cynnig safbwyntiau gwahanol i drafodaethau’r Panel Cynghori yn seiliedig ar eu harbenigedd o fewn eu meysydd penodol”.

Ar ôl derbyn argymhellion gan y panel dethol, rwy’n hyderus bod gan y Comisiynydd ac aelodau’r panel, gyda’i gilydd, y gwybodaeth a’r profiad o’r materion sydd wedi’u amlinellu yn Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012 sef gwybodaeth a phrofiad o'r materion canlynol:
llywodraethu corfforaethol,

  • arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad,
  • hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall,
  • cysylltiadau cyhoeddus,
  • cyfundrefnau rheoleiddiol,
  • gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.