Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn hysbysu Aelodau o ganlyniad y broses ddiweddar i benodi aelodau newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Sefydlwyd y Cyngor gan Adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’i brif bwrpas yw rhoi cyngor ac arweiniad i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Gymraeg a gweithredu ei strategaeth iaith.

Daeth tymor rhai o aelodau’r Cyngor Partneriaeth i ben ar 30 Mehefin 2020 ac rwyf yn ddiolchgar iawn i’r aelodau hynny am eu cefnogaeth yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, yn enwedig yn wyneb yr heriau sydd wedi dod i’n rhan yn sgil y pandemig byd-eang.

Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r broses benodi gyda safon yr ymgeiswyr, a’r amrediad o arbenigedd yn eithriadol o uchel – nid oedd hi’n hawdd dewis pwy i’w benodi. Rwyf felly wedi penderfynu penodi saith aelod newydd, ac rwyf yn ddiolchgar iddynt am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Cyngor Partneriaeth.

Yr aelodau newydd a fydd yn ymuno gyda chwe aelod presennol y Cyngor Partneriaeth fydd: Dyfed Edwards, Dafydd Hughes, Meleri Wyn Davies, Rosemary Jones, Rhys Jones, Lowri Morgans ac Andrew White.

Bydd yr aelodau newydd yn gwasanaethu ar y Cyngor nes diwedd mis Mawrth 2024. Rwyf yn hyderus bod ganddynt y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i gefnogi’r Llywodraeth nesaf. Rhan o'u tasg fydd cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ail Raglen Waith Cymraeg 2050, sef y cam cyffrous nesaf ar ein taith genedlaethol tuag at filiwn o siaradwyr.

Y llynedd, fe wnes i sefydlu amrywiol is-grwpiau i’r Cyngor Partneriaeth sy’n craffu’n fanylach ar nifer o faterion sy’n ymwneud â’r iaith e.e. addysg, defnydd iaith cymunedol a pherthynas y Gymraeg a’r economi. Mae’r grwpiau wedi bod yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i mi ar eu gwaith ac yn cynnig cyngor gwerthfawr i’n cefnogi i weithredu Cymraeg 2050.

Rydym ni wrthi’n awr yn sefydlu is-grŵp newydd a fydd yn edrych ar faterion cydraddoldeb ym maes hil ac ethnigrwydd. Y bwriad yw gwneud yn siŵr bod y Gymraeg mor agored ag sy’n bosibl i bobl o bob cefndir a bod yr iaith a ddefnyddir yn y maes hwn yn gynhwysol. Bydd yr is-grŵp yn cynnwys unigolion a fydd yn cynrychioli’r amrywiol gymunedau ethnig a bydd aelodau’r is grŵp yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth o bryd i’w gilydd.

Rwy’n hyderus y bydd y Cyngor Partneriaeth yn parhau’n arf defnyddiol i’r Llywodraeth nesaf wrth iddi gamu’n bendant tuag at y miliwn.