Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Pennu lefel y targedau interim a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu ein huchelgais hirdymor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% yn 2050 ac mae'n sylfaen gref i fodloni ein hymrwymiadau rhyngwladol. Llynedd, rhoddais gadarnhad y byddwn yn cyfrifo ein holl allyriadau yng Nghymru. Bwriad y datganiad hwn yw diweddaru'r Cynulliad o ran gosod targedau lleihau allyriadau dros dro a'n dwy gyllideb garbon gyntaf.

Mae gosod ein targedau dros dro a'n dwy gyllideb garbon gyntaf yn gerrig milltir pwysig o ran cynnig eglurder a sicrwydd i lywodraeth, busnes a rhanddeiliaid o ran llwybr Cymru tuag at gymdeithas garbon isel. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad Cymru i gyfrannu at dargedau lleihau allyriadau y DU a chytundebau rhyngwladol.

Mae'n rhaid i'n targedau a'n cyllidebau gael eu pennu gan ddefnyddio'r dystiolaeth gadarn ddiweddaraf, sy'n ystyried y saith nod llesiant a'r effaith ar allyriadau i osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru o ystyried ein sefyllfa economaidd a'r cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth. Rydym wedi cynnal digwyddiadau gyda'n corff cynghori statudol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (UKCC), ochr yn ochr â'u Cais am Dystiolaeth sy'n holi barn ar y targedau a'r cyllidebau.  Roeddwn yn falch o weld yr amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ein digwyddiadau, gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, busnes, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, academia a dinasyddion. Defnyddiodd UKCC y mewnbwn hwn fel sail i'w cyngor inni ar ein targedau dros dro a'u dwy gyllideb garbon gyntaf. Hoffwn ddiolch i randdeiliaid am eu cyfraniad ac am helpu inni ddeall gyda'n gilydd ein cyd-destun Cymreig unigryw.

Mae fy swyddogion hefyd wedi gweithio'n eang ar draws llywodraeth, gan gefnogi gweithgorau datgarboneiddio ym maes Amaethyddiaeth a'r Defnydd o Dir, Adeiladau, Trydan, Diwydiant a Busnes, y Sector Cyhoeddus, Trafnidiaeth a Gwastraff i brofi'r rhagdybiaethau a'r dystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno gan UKCCC a'u cymharu gyda'n gwybodaeth a'n sylfaen dystiolaeth bresennol. Rydym hefyd wedi dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn data allyriadau ac wedi asesu opsiynau yng nghyd-destun Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol, yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a chytundebau rhyngwladol ar y newid yn yr hinsawdd.

Wedi ystyried y dystiolaeth, gan gynnwys cyngor UKCC, mae'r Cabinet wedi cytuno i osod targedau dros dro a'r ddwy gyllideb garbon fel a ganlyn (yn erbyn gwaelodlin 1990):

• 2020: Gostyngiad o 27%

• 2030: Gostyngiad o 45%

• 2040: Gostyngiad o 67%

• Cyllideb garbon 1 (2016-20): Gostyngiad o 23% ar gyfartaledd

• Cyllideb garbon 2 (2021-25): Gostyngiad o 33% ar gyfartaledd

Mae'r lefelau hyn yn gyson â chyngor UKCCC. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r ffigurau hyn o fewn Rheoliadau i'w gosod gerbon y Cynulliad tuag at ddiwedd y flwyddyn.

Caiff y targedau eu hadolygu yn dilyn tystiolaeth newydd a'n hamcanion llesiant. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r UKCC i adolygu ein targedau hirdymor yng ngoleuni Cytundeb Paris, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Fodd bynnag, mae'r cyngor hyd yma gan UKCCC wedi dangos y bydd y gostyngiad o 80% yng Nghymru yn fwy o ymdrech na'r gostyngiad cyfatebol i'r DU yn gyfan ac yn agos at y gostyngiad uchaf posibl o fewn y sefyllfa.  

Bydd cyrraedd y ffigurau hyn yn hynod anodd, fel yr oedd y data allyriadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer 2016 yn dangos, bod ein allyriadau wedi cynyddu o gymharu â 2015. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd o 22% mewn allyriadau o bwerdai. O ganlyniad, mae Cymru wedi lleihau ei hallyriadau 14% ers 1990.

Er fy mod yn siomedig gyda data 2016, mae'n bwysig cydnabod y gwahanol heriau a'r cyfleoedd rydyn ni'n eu hwyneb o gymharu â gweddill y DU. Mae tueddiadau hanesyddol yn dangos bod allyriadau yn amrywiol iawn yng Nghymru. Mae bron 60% o'n hallyriadau'n dod o ddiwydiant trwm a chynhyrchu trydan (sy'n cael ei adnabod fel y 'sector masnachu' o dan Gynllun Masnachu Allyriadau yr UE). Er gwaethaf y twf sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae cyfran helaeth o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn dod o danwyddau ffosil.

Mae’r ffigurau yn cadarnhau pwysigrwydd gosod targedau a chyllidebau, a sefydlu llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio.  Rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth i nodi pa gamau sydd angen inni eu cymryd yn y tymor byr, canolig a hirdymor, a chefais fy nghalonogi gan ymateb fy nghydweithwyr yn y Cabinet i’r agenda hon.  Byddwn yn lansio ymgynghoriad ym mis Gorffennaf yn canolbwyntio ar sut i gyflawni ein llwybr carbon isel tan 2030 a manteisio i’r eithaf ar ein hamcanion llesiant.  Rwy’n edrych ymlaen at drafod yr ymgynghoriad gyda’r Aelodau yn hwyrach yn y flwyddyn.