Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Cafodd Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynharach yr wythnos hon. Mae'r Bil yn mynd â ni ymhellach i lawr y trywydd ar gyfer datganoli Treth Dir y Dreth Stamp i Gymru ac, yn fwy na 220 o dudalennau o hyd, dyma'r Bil y Cynulliad hwyaf hyd yma. Nid yw'r Bil, fodd bynnag, yn cynnwys manylion cyfraddau a bandiau'r Dreth newydd.
Bydd rhaid aros tan ychydig cyn i'r Dreth Trafodiadau Tir newydd ddod i rym yn 2018 cyn pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyfraddau a'r bandiau yn berthnasol i'r farchnad eiddo a'r amgylchedd economaidd yr adeg hynny. Fodd bynnag, bydd rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i ffactorau eraill hefyd cyn y gellir gwneud penderfyniad deallus ynghylch y cyfraddau a'r bandiau a fyddai'n addas i fodloni anghenion ac amgylchiadau Cymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi papur ymchwil ar bennu cyfraddau a bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, sy'n amlinellu rhai o'r materion hynny.
Mae'r papur ymchwil ar bennu cyfraddau a bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn ymhelaethu ar y cyd-destun y mae'n rhaid inni ei ystyried wrth bennu’r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth; mae'n ystyried effeithiau Treth Dir y Dreth Stamp; ac mae'n edrych ar brofiad yr Alban o gymhwyso'r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yno, cyn crynhoi'r materion allweddol y bydd angen eu hasesu fel rhan o'r broses o bennu cyfraddau a bandiau priodol i Gymru.
Mae'r papur ymchwil ar gael ar wefan Trysorlys Cymru a gallwch ei weld yma: http://gov.wales/docs/caecd/publications/160915-ltt-bands-cy.pdf
Hyderaf y byddwch yn dysgu llawer mwy o ddarllen y papur hwn, a gobeithio y bydd o ddiddordeb ichi.