Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Ar 13 Ionawr, pleidleisiodd yr Undeb Ewropeaidd (UE) o blaid diwygio deddfwriaeth Ewropeaidd er mwyn caniatáu i Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau benderfynu ar lefel genedlaethol a ydynt am wahardd neu dyfu cnydau a addaswyd yn enetig yn eu tiriogaethau. Disgwylir i’r newid hwn i ddeddfwriaeth Ewropeaidd gael ei fabwysiadu yn ystod y gwanwyn ac yn ei sgil, bydd modd i Lywodraeth Cymru fynnu bod rhywun sy’n gwneud cais i dyfu cnydau wedi’u haddasu’n enetig yn cyfyngu ar gwmpas daearyddol unrhyw ganiatâd a roddir gan yr UE i dyfu cnwd o’r fath, gan sicrhau nad yw Cymru’n cael ei chynnwys. Os na fodlonir y gofyniad hwnnw, yna gallwn fabwysiadu camau pellach i gyfyngu ar dyfu cnydau a addaswyd yn enetig neu eu gwahardd. Gallai’r camau pellach hynny gynnwys pethau fel polisïau ar yr amgylchedd neu amaethyddiaeth, effeithiau economaidd-gymdeithasol, polisi cyhoeddus neu osgoi sefyllfa lle mae deunyddiau a addaswyd yn enetig yn halogi cynhyrchion eraill. Rydym wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i sicrhau bod materion economaidd-gymdeithasol yn cael eu hystyried yn ffactorau pwysig wrth bwyso a mesur a ddylid caniatáu cnydau a addaswyd yn enetig. Rwyf yn falch bod y ffactorau hynny bellach yn cael eu cydnabod yn ffurfiol.
Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu i weithredu’n polisi ar gnydau a addaswyd yn enetig, sef cyfyngu ar dyfu cnydau o’r fath a bod yn rhagofalus yn eu cylch. Mae’n bolisi y mae pob plaid wleidyddol yn ei gefnogi.
Bydd y penderfyniad diweddar hwn gan Senedd Ewrop yn golygu y bydd gan Gymru yr arfau angenrheidiol i barhau i weithredu yn y modd uchod a bydd yn caniatáu i ni arfer rheolaeth ar dyfu cnydau a addaswyd yn enetig yng Nghymru. Bydd yn caniatáu hefyd i ni ddiogelu’n buddsoddiad sylweddol yn y sector organig ac i ddiogelu’r tir amaethyddol yng Nghymru sy’n cael ei reoli o dan gynlluniau amaeth-amgylcheddol gwirfoddol. Mae ffermio a diwydiannau prosesu bwyd yn parhau’n gonglfaen i’n heconomi wledig. Rydym yn rhoi pwyslais ar gystadlu o ran ansawdd, ar frandio cryf ac ar ychwanegu gwerth drwy brosesu’n lleol. Mae angen i ni, felly, gadw hyder defnyddwyr a pharhau i hoelio’n sylw ar amgylchedd naturiol glân a gwyrdd. Gan fod gennym y gallu bellach i reoli’r hyn a dyfir yng Nghymru, gallwn fod yn hyderus ynglŷn â chynnal y gwerthoedd hynny.
Er ein bod yn rhagofalus am y mater hwn, rydym hefyd yn cadw meddwl agored am ddatblygiadau yn y dyfodol ym maes cnydau a addaswyd yn enetig a thechnolegau bridio planhigion. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gnydau a addaswyd yn enetig sy’n addas ar gyfer yr amodau tyfu yng Nghymru neu a allai fod o fudd parhaol i Gymru. Gallai ymchwil yn y dyfodol i dechnegau uwch ar gyfer bridio planhigion, o’i chynnal yn annibynnol, yn agored ac yn onest, helpu i sicrhau’r genhedlaeth nesaf o gnydau (wedi’u haddasu’n enetig neu gonfensiynol) a fydd o fudd i’r ffermwr, y defnyddiwr a’r amgylchedd. Gallai arwain hefyd at fathau mwy cynaliadwy o amaethu. O’r herwydd, rydym yn cefnogi’r arbenigedd ymchwil sy’n datblygu yng Nghymru yn y gwyddorau biomeddygol ac amaethyddol. Un enghraifft ddiweddar o hynny yw’r ffaith i ni gefnogi treialon ar frechlyn wedi’i addasu’n enetig yn erbyn canser y prostad, mewn ysbyty yng Nghymru sy’n rhan o dreial ehangach ar lefel Prydain.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn ystod yr wythnosau nesaf i weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i gadarnhau manylion y cynnig hwn i ddiwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC ar ryddhau Organebau a Addaswyd yn Enetig i’r amgylchedd, a’r ffordd y caiff ei weinyddu yn y DU a’r UE. Un agwedd bwysig ar y gwaith hwnnw fydd sefydlu trefniadau trawsffiniol â Lloegr er mwyn sicrhau bod ffermwyr yng Nghymru yn cael eu diogelu rhag unrhyw halogi posibl pe bai cnydau a addaswyd yn enetig yn cael eu tyfu dros y ffin. Mae’r penderfyniad hwn gan yr UE yn un pwysig sy’n torri tir newydd ac mae, am y tro cyntaf, yn rhoi’r pŵer i Aelod-wladwriaethau a Rhanbarthau benderfynu a ydynt am dyfu cnydau a addaswyd yn enetig yn eu tiriogaeth ai peidio. Yn yr un modd â nifer o wledydd eraill yr UE a fu’n brwydro’n galed dros hyn, mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r penderfyniad hwn.