Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Ar 14 Ionawr 2014 cyhoeddais benderfyniadau ynghylch cyflwyno prif elfennau Colofn 1 y Polisi Amaethyddol Cyffredin o fis Ionawr 2015 ymlaen. Roedd fy natganiad yn gam pwysig ar y ffordd i roi’r diwygiadau i’r PAC ar waith yng Nghymru a chafodd ei wneud yn dilyn ymgynghori helaeth a thrafodaethau hir am y fframwaith rheoleiddio a'r gyllideb. Roedd angen penderfynu ar fanylion pwysig o hyd sut y byddai'r Cynllun Taliadau newydd yn gweithio.
Mae fy natganiad heddiw yn amlinellu manylion sut y bydd y cynllun Colofn 1 diwygiedig yn gweithredu o ran hawliau talu, y diffiniad o ffermwr actif, y taliad gwyrddu a'r cynllun ffermwyr ifanc. Mae'r rhain yn faterion manwl, felly er eglurdeb cânt eu rhestru a'u disgrifio yn yr atodiad amgaeedig yn y drefn y maent yn ymddangos yn y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol (Rheoliad yr UE Rhif 1307/2013)
Caiff hawliau newydd eu dyrannu yn 2015. Defnyddir gwerth yr hawliau a gafwyd yn 2014 fel sylfaen ar gyfer cyfri’r gyfradd fesul hawl ar gyfer 2015; ond efallai y bydd yn llai neu’n fwy na’r taliadau a gafodd hawlwyr yn 2014. Gallaf gadarnhau y byddan nhw ar gael i unigolion all ddangos eu bod wedi cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn 2013, p'un a wnaethant hawlio Cynllun y Taliad Sengl (SPS) y flwyddyn honno ai peidio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i unrhyw unigolion sy'n ffermio ar hyn o bryd heb hawliau fod yn gymwys ar gyfer y dyraniad cyntaf o hawliau newydd yn 2015 os nad ydynt wedi hawlio cymorth Colofn 1 yn y gorffennol. Er mwyn cadw pethau'n syml, ac i beidio â rhoi unrhyw hawlwyr nad ydynt wedi cael hawliau SPS yn y gorffennol dan anfantais, rwyf wedi penderfynu peidio â gosod unrhyw feini prawf ychwanegol mewn perthynas â sgiliau, profiad nac addysg hawlwyr i fod yn gymwys am hawliau newydd. Rwyf am sicrhau tegwch rhwng y rheini sydd eisoes â hawliau a'r rheini sydd hebddynt, ac nid wyf yn mynd i godi rhwystrau i hawlwyr newydd, y mae nifer ohonynt ymhlith y bobl mwyaf blaengar a mentrus yn y byd amaeth sydd wedi llwyddo i ddechrau a datblygu busnes fferm heb gymorth Colofn 1. Er mwyn cadw pethau'n syml, ni fyddaf yn dewis yr opsiwn sy’n mynnu bod yr hawliwr yn dychwelyd unrhyw elw y mae’n ei gael o werthu, rhoi neu lesio hawliau rhwng nawr a 15 Mai 2015, i'r Gronfa Genedlaethol.
Bydd y cynllun newydd yn cynnwys sefydlu cronfa ar gyfer pob un o'r tri rhanbarth tir a ddefnyddir ar gyfer y taliadau. Mae hynny’n golygu y bydd tair 'Cronfa Ranbarthol' yng Nghymru nid 'Cronfa Genedlaethol'. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y rheoliadau yn rhoi blaenoriaeth i neilltuo hawliau o’r gronfa i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid. Fel arall ymdrinnir â cheisiadau am hawliau o'r gronfa ar sail y cyntaf i'r felin. Rwyf hefyd wedi penderfynu, am y rhesymau a nodir eisoes, peidio â gosod meini prawf ychwanegol ar gyfer newydd-ddyfodiaid sy'n gwneud cais am hawliau o'r gronfa.
Mae llawer o drafodaethau wedi bod yn y diwydiant ynghylch y diffiniad o 'Ffermwr Actif' ac rwy'n rhannu'r awydd mai dim ond pobl sy'n gweithio’r tir ddylai gael taliadau. Nid yw'r fframwaith rheoleiddio yn mynd i'r afael â'r broblem mewn modd cynhwysfawr, ac ychydig yn unig y gallaf ei wneud yn hyn o beth. Er hynny, rwyf wedi penderfynu diffinio 'gweithgarwch amaethyddol' mewn ffordd sy'n gosod safonau uchel i annog hawlwyr i naill ai weithio’r tir eu hunain neu rentu'r tir i rywun a fyddai'n ei weithio a hawlio taliadau’r PAC. Pan gaiff hawliau eu dyrannu, a bod mwy nag un person am hawlio taliadau ar yr un parsel o dir, bydd Taliadau Gwledig Cymru yn mynnu mai'r person all brofi mai ef sy'n cynnal y gweithgarwch amaethyddol ac sy’n defnyddio'r tir fydd yn cael yr hawliau. Nid wyf yn ychwanegu at y rhestr negyddol, mae'n ddigonol ar gyfer Cymru.
Ym mis Ionawr, cyhoeddais y prif benderfyniadau ynghylch y taliadau gwyrddu, a phenderfyniadau ynghylch yr ardaloedd â ffocws ecolegol yw trwch y gwaith sy’n weddill. Yng Nghymru, bydd hawlwyr yn cael cynnwys gwyndwn, perthi/gwrychoedd, waliau cerrig, coedlannau cylchdro byr, coedwigoedd a thir a ddefnyddir ar gyfer cnydau bachu nitrogen. Bydd y rhan fwyaf o ffermydd Cymru yn gymwys am y cynllun gwyrddu am eu bod yn dir pori parhaol, ond i'r rheini nad ydynt yn gymwys, bwriad yr opsiwn Ardaloedd â Ffocws Ecolegol (EFAs) yw cynnig hyblygrwydd yn ogystal â hyrwyddo defnyddio tir mewn ffordd sy'n sicrhau manteision amgylcheddol. Fodd bynnag, rwyf wedi penderfynu peidio â defnyddio opsiynau rheoleiddio i gydio EFAs - mae cymhlethdod gweinyddol a'r risgiau cydymffurfio yn drech na'r manteision. Rwy'n cydnabod bod gwerth i fesurau rheoli ar sail tirwedd er mwyn gwella'r amgylchedd ond maent yn fwy priodol i Golofn 2.
Fy nod yw sicrhau bod y trefniadau ar gyfer y cynllun ffermwyr ifanc mor syml â phosib. Drwy gydol y trafodaethau am ddiwygio, gofynnais am gymorth i helpu newydd-ddyfodiaid. Er mwyn gwneud defnydd da o arian cyhoeddus, rwy'n defnyddio'r dull mwyaf cyfyngedig posibl o weithredu'r cynllun. Fy mwriad yw defnyddio Colofn 2 yn hytrach i roi cymorth ystyrlon i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid sy’n targedu angen a'r canlyniad tebygol. I fanylu, ni fyddaf yn gosod meini prawf ychwanegol - caiff pob person cymwys ei drin yn yr un modd gan mai hynny sydd decaf. Bydd taliadau yn seiliedig ar y nifer o hectarau cymwys sydd gan yr hawliwr, hyd at uchafswm o 25 o hectarau.
Gydol y broses, mae tryloywder yn ac wedi bod yn bwysig iawn i mi. Mae’n briodol bod trethdalwyr yn deall ac yn cael gweld yr wybodaeth am daliadau’r PAC sy’n cael eu gwneud ar eu rhan. Byddaf felly yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at fy ymrwymiadau o dan gyfraith yr UE i gyhoeddi gwybodaeth ar wefan Taliadau PAC y DU.
Mae'r penderfyniadau rwy'n eu gwneud heddiw yn cwblhau'r penderfyniadau polisi y mae'n rhaid i mi eu gwneud ar gyfer Colofn 1 y PAC. Maent yn dilyn egwyddor y penderfyniadau a wnaed ym mis Ionawr i roi'r sylfaen orau posibl i ddiwydiant ffermio Cymru ar gyfer y dyfodol. Pan fo'n bosibl rwyf wedi ceisio sicrhau symlrwydd ac rwyf wedi trin ffermwyr yn gyfartal p'un a ydynt yn newydd-ddyfodiaid neu’n ffermwyr sydd ag hawliau ar hyn o bryd, neu p'un a oes ganddynt fusnes fferm mawr neu fach. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn ysgrifennu at hawlwyr ym mis Gorffennaf yn egluro'r materion hyn i gyd.