Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, caiff aelod-wladwriaethau a gweinyddiaethau drosglwyddo hyd at 15% o’u cyllid BPS i’w cyllid datblygu gwledig, a elwir yn ‘drosglwyddo rhwng colofnau’.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Llywodraeth y DU o’n bwriad i fanteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth sydd ar gael i economi wledig ac amgylchedd Cymru ar ôl ymadael â’r UE, drwy drosglwyddo 15% o gyllid y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) ar gyfer 2020 i gefnogi datblygiad gwledig, fel y gwnaethpwyd yn ystod pob blwyddyn o’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn sgil ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid llawn yn lle y BPS 2020 ar ôl i’r DU adael yr UE.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.