Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Mae hynt y cynllun peilot ar gyfer Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy'n Gadael Gofal yng Nghymru, a lansiwyd ar 1 Gorffennaf 2022, yn parhau i ddenu diddordeb sylweddol, yng Nghymru a'r DU yn ogystal ag ym mhob cwr o'r byd. Gwn fod fy nghydweithwyr yn y Senedd yn parhau i fod â llawn cymaint o ddiddordeb i ddysgu sut gynnydd mae'r peilot wedi'i wneud yn ystod y ddwy flynedd gyntaf iddo fod ar waith.
Ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig hwn, cyhoeddwyd diweddariad i'r data monitro dros dro heddiw, gan gynnwys dwy flynedd gyntaf y peilot. Mae'r data'n adlewyrchu'r wybodaeth a oedd ar gael ar 31 Gorffennaf 2024, a darddodd o ddata rheoli a gasglwyd gydol y cyfnod cofrestru ac unrhyw ddiweddariadau perthnasol wedi hynny.
Mae hi bellach dros 24 mis ers dechrau'r cynllun peilot. Cyrhaeddodd y derbynwyr cymwys cyntaf 18 oed ym mis Gorffennaf 2022 gan ddechrau cael taliadau o 1 Awst 2022. Mae llawer o'r bobl ifanc ar y cynllun peilot bellach yn prysur gyrraedd misoedd olaf eu taliad incwm sylfaenol gyda rhai pobl ifanc eisoes wedi cael eu taliad olaf ac yn gadael y cynllun peilot o fis Gorffennaf 2024 ymlaen.
Daeth cofrestru ffurfiol ar gyfer y cynllun peilot i ben ar 30 Mehefin 2023 ac ar sail amcangyfrif o'r nifer yn y garfan gymwys ar gyfer y flwyddyn gofrestru, roedd 97% wedi ymuno â'r cynllun peilot hwn, gyda 644 yn derbyn incwm sylfaenol. Rydym yn credu mai dyma'r ganran uchaf sydd wedi ymuno ag unrhyw gynllun incwm sylfaenol ledled y byd y mae gofyn dewis cymryd rhan ynddo.
Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid cyflenwi i ddatblygu dull o gefnogi pobl ifanc wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu taliadau incwm sylfaenol. Rydym yn sylweddoli bod dros 600 o straeon ac amgylchiadau unigryw ymhlith y garfan beilot, felly mae'r dull gweithredu yn cyflwyno safon sylfaenol o gymorth sy'n berthnasol i bob derbynnydd, gyda chymorth pellach yn cael ei ddarparu yn unol ag amgylchiadau unigol y person ifanc. Trwy gydweithio â'n partneriaid a rhannu dysgu, gan gynnwys dirnadaethau gan y derbynwyr eu hunain, wrth i bobl ifanc ddod oddi ar y cynllun peilot byddwn yn adolygu'n barhaus sut mae pontio oddi ar y cynllun yn gweithio'n ymarferol. Mae rhagor o fanylion am y broses o bontio oddi ar y cynllun ar gael ar-lein.
Mae’r gwaith gwerthuso hwn yn parhau i fynd rhagddo. Ym mis Chwefror 2024, gwnaethom gyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau gwerthuso thematig, a oedd yn disgrifio'r derbynwyr, amlinellu damcaniaeth gychwynnol y rhaglen a chrynhoi agweddau ymarferwyr ar ddechrau'r cynllun. Bydd yr adroddiad nesaf, i'w gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn nesaf, yn edrych ar weithrediad y cynllun a'i effaith gychwynnol. Mae'n bwysig ein bod yn aros am ganlyniad gwerthuso'r cynllun peilot cyfnod-penodol hwn, ac edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad nesaf yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae gwaith ar y gweill i ystyried gwerthusiad tymor hwy o'r peilot gan ddefnyddio data gweinyddol i'n galluogi i ddeall effaith y cynllun ar fywydau'r rhai sy'n cymryd rhan y tu hwnt i 2027.