Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y pedwerydd adroddiad blynyddol gan Weinidogion Cymru ar gyflawni a gweithredu Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

O dan adran 23 o'r Ddeddf, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru adrodd bob blwyddyn ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni a gweithredu’r darpariaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf, hyd at flwyddyn ar ôl i'r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith.

Mae Rhan 2 o Ddeddf Cymru 2014 yn darparu ar gyfer datganoli cyfres o bwerau cyllidol i Gymru. Mae’r rhain yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar gyfer trethi Cymreig ar drafodiadau tir a gwarediadau tirlenwi, ac i osod cyfraddau treth incwm Cymru; yn ogystal â galluogi Llywodraeth Cymru i gynnig a chyflwyno trethi newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Dŷ’r Senedd.

Mae’r adroddiad newydd  yn disgrifio’r cynnydd a wnaed yn ystod 2018 tuag at weithredu pwerau cyllidol Deddf Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno ym mis Ebrill y trethi Cymreig cyntaf o’r cyfnod modern (y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi), a gasglir gan  Awdurdod Cyllid Cymru; y paratoadau a wnaed gan CThEM ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig ym mis Ebrill 2019; a gwaith ar ddatblygu syniadau ar gyfer trethi newydd.