Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar 26 Tachwedd, cadeiriais bedwaredd uwchgynhadledd ar bymtheg y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghaerdydd. Yn bresennol oedd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Gweinidogion arweiniol o Aelod Weinyddiaethau eraill y Cyngor gan gynnwys:

  • An Taoiseach, Mr Enda Kenny TD, o Lywodraeth Iwerddon 
  • Ysgrifennydd Glwadol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, o Lywodraeth y DU
  • Prif Weinidog Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Peter Robinson MLA a’r Dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin McGuinness AS MLA
  • Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth yr Alban, Ms Nicola Sturgeon MSP
  • Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr Ian Gorst
  • Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey, y Dirprwy Peter Harwood
  • Prif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Allan Bell MHK.

Mae’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn parhau i chwarae rôl unigryw a phwysig o ran hybu, hyrwyddo a datblygu cysylltiadau rhwng yr Aelod Weinyddiaethau ac mae’n fforwm ar gyfer ymgynghori a chydweithredu. Y tro hwn, roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i’r Aelod Weinyddiaethau drafod dwy eitem bwysig: yr economi, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu'r seilwaith i hybu twf economaidd; a pholisi'r blynyddoedd cynnar ar draws Ynysoedd Prydain ac Iwerddon.

O ran yr economi, soniais am y cyswllt annatod rhwng economi Cymru ac economïau'r DU a’r byd a sut y mae’r polisïau ariannol a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU yn dylanwadu arni. Pwysleisiais mai swyddi a'r economi yw prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o hyd. Er bod sefyllfa'r farchnad lafur yng Nghymru yn gwella, soniais mai swyddi rhan-amser oedd llawer iawn o'r swyddi a grëwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Tynnais sylw at gasgliadau diweddar Comisiwn Silk sef y dylai ystod o drethi newydd gael eu datganoli i Gymru. Byddai hyn yn fodd i gael setliad ariannol newydd i Gymru sy'n cynnwys pwerau benthyca a rhai trethu datganoledig. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i ni gael dulliau newydd o hybu'r economi yng Nghymru a chefnogi twf economaidd.

Pwysleisiodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth fod angen seilwaith modern a chynaliadwy ar Gymru er mwyn sicrhau twf economaidd. Amlinellodd y Gweinidog flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gan gynnwys gwella'r rhwydweithiau telathrebu a datblygu Ardaloedd Menter yng Nghymru. Croesawodd y Gweinidog y bwriad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a rhwydwaith Rheilffordd y Cymoedd, a fyddai'n cryfhau'r coridor trafnidiaeth ac yn dod â manteision economaidd yn ystod y cam adeiladu. Pwysleisiodd y Gweinidog nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros yr holl wariant ar seilwaith yng Nghymru sy'n gysylltiedig ag ynni. Ond yn y meysydd hynny lle mae ganddi reolaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector cyhoeddus i sicrhau cymaint o fuddsoddiad â phosibl.  Soniodd y Gweinidog hefyd am y pryderon a godwyd gan weithgynhyrchwyr ynghylch pris uchel ynni yn y DU, yn enwedig ar gyfer y diwydiannau hynny sy'n cynhyrchu nwyddau i’w masnachu’n rhyngwladol. Mae diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni yn gyfranwyr allweddol i economi Cymru ac mae prisiau ynni uchel yn effeithio ar eu gallu i barhau i gystadlu.

O ran polisi'r blynyddoedd cynnar, tynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau sylw at y ffaith bod Cymru'n un o'r ychydig wledydd yn y byd sydd wedi cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sy'n rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ystyried y CCUHP yn eu gwaith. Esboniodd y Gweinidog fod gwella'r canlyniadau allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dywedodd fod hyn yn cael ei gyflawni drwy gynyddu'r cyllid ar gyfer rhaglenni ymyrraeth gynnar gan gynnwys Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen. Pwysleisiodd hefyd fod ansawdd y gweithlu yn bwysig a bod ystyriaeth yn cael ei roi i ffyrdd o fuddsoddi yn sgiliau'r gweithlu a datblygu mentrau gofal plant. Disgrifiodd y Gweinidog yr ymrwymiad i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu. Dywedodd fod Strategaethau Addysg Cyfrwng Cymraeg ac Iaith Gymraeg ar waith i gyflawni hyn sy'n rhoi pwys mawr ar helpu plant i ddysgu a defnyddio'r iaith Gymraeg yn ifanc iawn o fewn addysg ffurfiol, ac yn gymdeithasol drwy chwarae. Soniodd hefyd am yr effaith y mae tlodi'n ei chael ar ein plant a sut y mae Llywodraeth Cymru’n parhau i ganolbwyntio'n gryf ar dlodi plant drwy'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi.  

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafodaethau’r bedwaredd uwchgynhadledd ar bymtheg mewn Cyd-hysbysiad, sydd wedi'i amgáu.