Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Cawsoch eich hysbysu’n ddiweddar am swm o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i rewi’r dreth gyngor yn Lloegr y flwyddyn nesaf. Cyfanswm hyn yw oddeutu £38.9m. Hysbysodd y Prif Weinidog y Cynulliad ar 12 Hydref ein bod yn bwriadu defnyddio’r arian hwn i roi ysgogiad economaidd tymor byr.
Ers hynny, rydym wedi gweithio’n agos gyda busnesau, yr undebau llafur a rhanddeiliaid eraill i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r arian hwn, ac wedi ystyried ystod o gynigion o bob rhan o Lywodraeth Cymru.
Heddiw rwy’n cyhoeddi sut rydym yn bwriadu defnyddio’r £38.9m dros gyfnod o ddwy flynedd i hybu’n hamcanion a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu. At ei gilydd, mae’r cynigion hyn yn becyn ysgogi cynhwysfawr sy’n cefnogi’r agenda sgiliau a phrentisiaethau ac maent yn rhan o’r cytundeb ar y Gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Ar 16 Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth fuddsoddiad newydd o £55m ym mentrau bach a chanolig Cymru eleni i gefnogi twf busnesau. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £87m dros y ddwy flynedd nesaf ar draws Cymru. Mae’r pecyn hwn yn adeiladu ar y camau hynny i hybu’r economi a datblygu gwasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau manteision uniongyrchol i’n heconomi ynghyd ag ategu’n hamcanion hirdymor.
Mae’r pecyn yn cynnwys:
- Rhaglen Recriwtiaid Newydd – estyniad yw hwn ar y cynllun cyfredol i roi cymorth ariannol i gyflogwyr cymwys a all gynnig rhaglen brentisiaethau o ansawdd uchel. Rydym wedi dyrannu £0.65m ar gyfer 2011-12 a £4.23m ar gyfer 2012-13. Bydd hyn yn ariannu 800 yn fwy o brentisiaethau yn 2011-12 a 1000 yn fwy o brentisiaethau yn 2012-13.
- Sgiliau Twf Cymru – mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar lwyddiant ProAct, gan roi cymorth i gwmnïau sy’n bwriadu ehangu’u gweithlu ac sydd angen cymorth ariannol i wireddu hyn. Mae’n ategu Twf Swyddi Cymru. Rydym wedi dyrannu £3m ychwanegol ar gyfer 2012-13 a fydd yn helpu 1,200 o bobl.
- Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion – mae hyn yn cefnogi rhaglenni cynnal cyfalaf awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach, gan ddisgwyl buddsoddiad cyfalaf hirdymor drwy Raglen Ysgolion y 21ain Ganrif. Rydym wedi dyrannu £9.26m ychwanegol yn 2011-12 fel buddsoddiad Cymru gyfan.
- Prosiect Tai Melin Trelái – bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £5 miliwn yn 2011-12 a £1 miliwn arall yn 2012-13 i gynorthwyo â’r gwaith angenrheidiol i wella’r safle 50 erw hwn, er mwyn i bartneriaeth eang gael cyflenwi cymysgedd o dai fforddiadwy a thai ar y farchnad agored dros y pedair i bum mlynedd nesaf. Bydd y prosiect yn creu hyd at 200 o swyddi’r flwyddyn, gan ddechrau yn ail hanner 2012.
- Arbed – drwy fuddsoddi £3 miliwn ychwanegol, byddwn yn ehangu’r prosiectau a gynigir drwy’r Rhaglen Arbed Ynni yn y Gymuned yn 2011-12. Bydd y prosiectau hyn yn gwella effeithlonrwydd ynni’r tŷ cyfan, ac maent wedi’u hanelu at bobl sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
- Tai Cymdeithasol – bydd y prosiect hwn yn cyflenwi 130 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Bydd yn denu buddsoddiadau o’r sector preifat ac rydym wedi dyrannu £9.26 miliwn ar ei gyfer yn 2011-12.
- Ardaloedd Menter – gwneir buddsoddiad o £3.5 miliwn yn 2011-12 i gefnogi gwelliannau i ffyrdd er mwyn sicrhau’r platfform cywir ar gyfer twf y sector preifat. Bydd yn creu swyddi adeiladu ar gyfer prosiectau penodol yn ogystal â hwyluso swyddi eraill ledled yr Ardal Fenter unwaith y daw’n weithredol.