Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) wedi cael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Nod y Bil yw creu fframwaith cyfreithiol unedig i Gymru, a fydd yn rhoi dysgwyr – yn ogystal â'u rhieni a'u gofalwyr – wrth wraidd y broses o nodi a chynllunio sut i ddiwallu eu hanghenion.

Mae'r Bil yn ffurfio un rhan o'n hymrwymiad i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Rydym am weld system lle y mae anghenion yn cael eu nodi'n gynnar, er mwyn mynd i'r afael â nhw'n gyflym, a system lle y mae pob dysgwr yn cael cefnogaeth i gyflawni ei botensial llawn. Bydd y broses gynllunio yn hyblyg ac yn ymatebol, a bydd gweithwyr proffesiynol yn fedrus ac yn hyderus.

Fy mlaenoriaeth yw cefnogi'r holl bartneriaid i gyflwyno a darparu'r system newydd yn llwyddiannus. Felly, rwy'n cyhoeddi heddiw y bydd pecyn cynhwysfawr newydd o gyllid ar gael.

Mae rhywfaint o'r cyllid i weithredu'r system newydd – £10.1 miliwn – wedi cael ei ddyrannu fel rhan o'n hymrwymiad ehangach i ddarparu £100 miliwn yn ychwanegol i wella safonau mewn ysgolion yn ystod tymor presennol y Cynulliad. Ein nod yw codi safonau ac estyn cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd – mae plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyfrif am bron i chwarter ein poblogaeth ysgol; ni allwn godi safonau heb dargedu adnoddau a gweithgareddau gwella at y grŵp hwn o ddysgwyr.  

Serch hynny, dim ond rhan o'r llun cyfan yw ysgolion – bydd pawb sydd â rôl yn y system newydd yn cael cymorth i weithredu'r gofynion ac arferion newydd mewn modd effeithiol. Bydd y cyllid newydd yn cael ei ategu gan fuddsoddiad o gyllidebau presennol – rwy'n disgwyl y bydd hyn yn golygu £10 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Cynulliad sy'n weddill.  Er bod hyn yn amodol ar gadarnhau cyllidebau yn yr adolygiad nesaf o wariant, bydd gwarchod y cyllid hwn yn flaenoriaeth.  

Mae'r pecyn cyllid hwn gwerth £20 miliwn yn adeiladu ar fuddsoddiadau rydym eisoes wedi'u gwneud er mwyn trawsnewid y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Rydym wedi buddsoddi i gyflwyno arferion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sydd wrth wraidd y system newydd ac yn cael effaith gadarnhaol mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach.

Ym mis Tachwedd, cyhoeddais y bydd cronfa arloesi Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd ar gael. Mae prosiectau arloesi ar waith ledled Cymru, ac maent yn datblygu dulliau newydd o gydweithio, sy'n ceisio gwella gwaith amlasiantaethol er budd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddatblygu rôl y Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg, a fydd yn cefnogi cynllunio a chydweithio effeithiol rhwng asiantaethau.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol ar fanylion ein rhaglen weithredu drwy'r grŵp gweithredu strategol a'i grwpiau arbenigol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu'r gweithlu a meithrin gallu, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ar draws pob sector; bydd gwaith penodol hefyd yn digwydd gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y cyfnod pontio ac yn cael cymorth bryd hynny.  

Rydym am sicrhau bod y system newydd yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy'n sicrhau y bydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu elwa ar fanteision y system newydd cyn gynted â phosib ar un llaw, a bod gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol yn ddigon parod i gyflawni hynny ar y llaw arall.

Byddaf yn cyflwyno manylion pellach am y rhaglen weithredu i Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid wrth i'r rhaglen ddatblygu.