Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Bydd yr Aelodau'n dymuno bod yn ymwybodol fod pecyn cymorth newydd ar y we yn cael ei lansio gennyf heddiw i roi cymorth i grwpiau cymunedol sy’n ystyried caffael asedau cymunedol i ddibenion chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant. Mae'r pecyn cymorth yn rhoi cyngor a ffynonellau cyllid a gwybodaeth sy'n benodol ar gyfer y sectorau chwaraeon, y celfyddydau a diwylliant. Ei nod yw rhoi gwybodaeth i fudiadau cymunedol i'w galluogi i gymryd meddiant yn llwyddiannus ar gyfleusterau sydd o bwys a gwerth yn lleol.
Bydd y pecyn sector penodol yn ategol i waith Y Gweithgor Asedau Cenedlaethol (GAC) a sefydlwyd gan Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a’r canllawiau trosfwaol sydd yn cael eu datblygu i gefnogi’r agenda ehangach ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac i gefnogi newid sylweddol i alluogi cymunedau i chwarae rôl mwy gweithredol mewn cynllunio a gweithredu gwasanaethau. Fe fydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth.
Mae'r pecyn cymorth ar gael ar lein.