Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Nod y datganiad hwn yw hysbysu Aelodau am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn cyfrannu’n llawn at rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n gydlynol yn ecolegol ac wedi’u rheoli’n dda.  

Bydd Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi ail-ddatgan fy mhenderfyniad i sicrhau ein bod yn cyflwyno amrywiaeth o ymyriadau polisi er mwyn sicrhau bod moroedd Cymru a’r bywyd amrywiol sy’n byw ynddynt yn iach a chryf i ymdopi â’r gofynion presennol a gofynion y dyfodol. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn defnyddio ac yn dibynnu ar ein moroedd i ennill bywoliaeth ac ar gyfer gweithgareddau hamdden. Rydym yn awyddus i’r broses hon barhau a datblygu fel rhan o’r agenda twf glas.

Y llynedd, aethom ati i ymgynghori ar opsiynau ar gyfer Parthau Cadwraeth Morol gwarchodedig iawn. Cafwyd ymateb da iawn i’r ymgynghoriad, a mynegwyd safbwyntiau amrywiol a chryf. Sefydlwyd tîm gorchwyl a gorffen, gyda chefnogaeth gan Grŵp Ffocws Rhanddeiliaid, i ystyried a rhoi cyngor ar sut y dylem ddatblygu Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru. Rwyf wedi cyfarfod â’r ddau grŵp hwn i ddiolch iddynt am eu cyfraniad cadarnhaol ac adeiladol gydol y broses.

Byddaf yn cyflwyno argymhellion y tîm gorchwyl a gorffen, ac er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd pellach ynglŷn â’r opsiynau a gyflwynwyd fel rhan o ymgynghoriad 2012, rwyf hefyd yn tynnu’r holl safleoedd arfaethedig yn ôl. Fel y cam nesaf, rwy’n awyddus i ddeall mwy am yr amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd eisoes yn cael eu gwarchod gan gyfres o 125 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n ymestyn dros 36% o foroedd Cymru. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi datblygu dealltwriaeth well o beth yw rhwydwaith cydlynus. Erbyn hyn, rydym mewn sefyllfa gryfach i asesu ein cyfraniad presennol at gydlyniant ecolegol y rhwydwaith. O ganlyniad, rwyf wedi comisiynu asesiad o’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig presennol er mwyn nodi a oes unrhyw fylchau ac ystyried yr opsiynau posibl i lenwi’r bylchau hynny. Os oes angen cyflwyno unrhyw gamau gweithredu, credaf y dylent fod yn syml, yn gymesur ac yn addas i’r diben.

Byddaf mewn sefyllfa i benderfynu a oes angen cyflwyno unrhyw gamau pellach ddechrau’r flwyddyn nesaf ar ôl ystyried canlyniad yr asesiad o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a’r ymateb i’r ymgynghoriad ar Hawliau Hanesyddol – sy’n cael ei gyhoeddi gennyf heddiw hefyd.  

Er y bydd yr asesiad o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ystyried ein cyfraniad presennol yn fanwl, rwyf eisoes yn ymwybodol o rai elfennau y bydd angen eu cryfhau o bosibl. Byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar ymestyn tair o’r Ardaloedd Gwarchodedig Arbennig ar gyfer adar môr sy’n bridio.

Er bod angen i’n safleoedd presennol gyflawni eu hamcanion cadwraeth, mae’n rhaid rheoli’r safleoedd hyn yn dda hefyd. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i adolygu’r gwaith o reoli ein safleoedd a nodi unrhyw welliannau gofynnol lle bo angen. Amlinellir unrhyw newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn reoli yng Nghynllun Gweithredu’r Môr a Physgodfeydd, a fydd yn destun datganiad gennyf ym mis Tachwedd.