Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 27 Hydref 2021, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Lloegr achos o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI), H5N1, mewn canolfan achub adar gwyllt yn Swydd Gaerwrangon yn Lloegr. Ers hynny, parhawyd i gael achosion o ffliw’r adar mewn dofednod ac adar cadw a gwelwyd y feirws hefyd mewn adar gwyllt. Cafodd cyfanswm o 152 eiddo ym Mhrydain Fawr, saith yng Nghymru, eu heintio â’r HPAI rhwng Hydref 2021 a Medi 2022, gan ei wneud yr achos hiraf a mwyaf o’r feirws.

Cafwyd cynnydd yn yr achosion yn Lloegr yn ddiweddar, gyda thros 35 o achosion wedi’u cadarnhau mewn adar cadw ers 1 Hydref.  Mae’r risg o’i drosglwyddo gan adar gwyllt wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ ac mae’r risg o heintio dofednod yn y DU wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ pan fo lefel y bioddiogelwch yn annigonol, ac o ‘isel’ i ‘ganolig’ lle ceir mesurau bioddiogelwch llym. Mae mesurau bioddiogelwch da yn hanfodol i gadw adar yn ddiogel rhag y feirws hynod heintus hwn.

Fel mesur i’w atal, ac fel ymateb i’r lefelau risg uchel ac i leihau’r risg o heintio dofednod ac adar caeth eraill, rwy’n datgan bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006.  Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 12:00 ar 17 Hydref 2022 ymlaen.

Bydd y Parth Atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Cadw adar cadw oddi ar dir y gwyddys ei fod yn cael ei ddefnyddio gan adar dŵr gwyllt neu ei halogi gan eu tail neu eu pluf neu lle ceir risg uchel i hynny ddigwydd
  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt:
  • Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt;
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Sicrhau nad yw’r sarn (deunydd gwely), offer, dillad a phopeth arall sy’n cael dod i’r mannau lle cedwir yr adar wedi’u halogi, boed uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan HPAI, sy’n cael ei ledaenu’n bennaf gan dail adar
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill. 

Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i bob aderyn cadw, gan gynnwys heidiau bach o lai na 50 o adar.

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar yn parhau tan bod y risg yn gostwng i lefel sy’n dweud wrthym nad oes ei angen mwyach. Bydd y Parth yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gellir newid ei ffiniau mewn ymateb i ddatblygiad epidemig HPAI.

Rwy’n credu bod y mesurau yn y Parth Atal hwn yn gymesur i lefel y risg rydym yn ei hwynebu. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu'n diwydiant dofednod, adar cadw eraill, iechyd y cyhoedd, ein cadwyni cyflenwi bwyd a lles ceidwaid adar yng Nghymru.

Mae pob un ohonom yn gyfrifol am atal clefydau a diogelu iechyd ein haid genedlaethol yng Nghymru. Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar.  Rhaid i geidwad barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.

Nid yw mesurau i gadw adar mewn siediau’n cael eu gwneud yn orfodol o dan ofynion y Parth Atal hwn. Mesurau bioddiogelwch da a chadarn yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag pob clefyd anifail, ac mae hwn yn amser da i bawb adolygu ei arferion bioddiogelwch ac ystyried beth arall y gellid ei wneud. Y gofyniad lleiaf yw’r amodau hyn yn y Parth Atal a rhaid i bawb sy’n cadw adar gydymffurfio â nhw. Mae’n bosibl y bydd ceidwaid adar yn penderfynu bod angen cadw eu heidiau mewn siediau ar yr adeg hon i’w diogelu, ac nid gwneud hynny’n orfodol wedi’i ddiystyru fel mesur ychwanegol y gellir ei gyflwyno gan y Llywodraeth yn nes ymlaen wrth inni barhau i adolygu’r clefyd a’i ddeall yn well wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i gofrestru’u hadar gyda’r APHA. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol i geidwaid sydd â mwy na 50 o adar ac rydym yn ei argymell yn gyfer i’r rheini sy’n cadw llai. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.