Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 27 Hydref cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Lloegr achos o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI), H5N1, mewn canolfan achub adar gwyllt yn Swydd Gaerwrangon yn Lloegr. Yn ogystal â’r achos hwn yn Lloegr, ar 2 Tachwedd, ac yn dilyn sawl darganfyddiad positif o’r ffliw adar ymhlith adar gwyllt ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru achos o H5N1 mewn haid o ieir yn Wrecsam.

Mae asesiad risg wedi’i baratoi yng ngoleuni’r canfyddiadau hyn, ac ar 1 Tachwedd cododd lefel y risg o ganfod y clefyd mewn adar gwyllt yn y DU o ganolig i uchel. Yn ogystal, mae'r risg i ddofednod wedi cael ei chodi o isel i ganolig, lle nad yw lefel y mesurau bioddiogelwch yn ddigonol. Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol er mwyn helpu i leihau’r risg. 

O gofio bod lefel y risg yn uwch, ac er mwyn lleihau'r risg y bydd dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu heintio gan adar gwyllt, rwyf am fod yn wyliadwrus ymlaen llaw a chyflwyno Parth Atal Ffliw Adar o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006.  Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 17:00 ar 3 Tachwedd 2021 ymlaen.

Bydd y Parth Atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt:
  • Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt;
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog;
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill. 

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar yn parhau tan bod y risg yn gostwng i lefel sy’n dweud wrthym nad oes ei angen mwyach. Bydd y Parth yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Gydag un achos o ffliw adar wedi’i gadarnhau mewn dofednod yng Nghymru, yn ogystal ag achosion ymhlith adar gwyllt, rwyf o'r farn bod y Parth Atal hwn a'r gofyniad i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol yn ffordd gymesur o ymateb i lefel y risg rydym yn ei hwynebu. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu'n diwydiant dofednod a’n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru.

Mae pob un ohonom yn gyfrifol am atal clefydau a diogelu iechyd ein haid genedlaethol yng Nghymru. Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar.  Rhaid i geidwad barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.

Nid yw mesurau i gadw adar mewn siediau’n cael eu gwneud yn orfodol o dan ofynion y Parth Atal hwn. Mesurau bioddiogelwch da a chadarn yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag pob clefyd anifail, ac ar gyfer llawer o geidwaid adar ni fydd y Parth Atal hwn yn newid y camau llym sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ddiogelu ein hadar. Fodd bynnag, mae hyn yn gyfle da i bawb adolygu arferion bioddiogelwch ac ystyried a allwn ni wneud mwy. Y gofyniad lleiaf yw’r amodau hyn yn y Parth Atal a rhaid i bawb sy’n cadw adar gydymffurfio â nhw. Mae’n bosibl y bydd ceidwaid adar yn penderfynu bod angen cadw eu heidiau mewn siediau ar yr adeg hon i’w diogelu, ac nid gwneud hynny’n orfodol wedi’i ddiystyru fel mesur ychwanegol y gellir ei gyflwyno gan y Llywodraeth yn nes ymlaen wrth inni barhau i adolygu’r clefyd a’i ddeall yn well wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Wrth adolygu a chynyddu mesurau bioddiogelwch, hoffwn annog pawb sy’n cadw adar i ystyried cadw eu hadar mewn siediau, a sut i gyflwyno mesurau o’r fath os bydd hynny’n ofynnol fel rhan o’r  Parth Atal.

Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i fod yn rhan o’r Gofrestr Dofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.