Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Ar 11 Tachwedd, cyhoeddais fod Cymru Gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar (AIPZ), hynny gan fod risg gynyddol i’n diwydiant dofednod yng Nghymru gael ei heintio gan ffliw’r adar. Addewais y byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa. Fel yr ydym i gyd yn ei wybod, mae sefyllfa clefyd yn gallu datblygu a newid, ac mae’n hanfodol ein bod yn cadw golwg ar y sefyllfa i fod yn siŵr mai’n hymateb yw’r ymateb mwyaf priodol i’r clefyd.
Mae Parth Atal yn cryfhau’r mesurau bioddiogelwch y bydd yn rhaid i holl geidwaid dofednod ac adar caeth eraill Cymru eu rhoi ar waith a chadw atynt. Rwy’n ddiolchgar i’r diwydiant am ei ymdrechion diflino i fodloni’r gofynion hyn, gan fod gennym oll ein rhan i atal y clefyd hwn.
Ers cyflwyno’r Parth Atal, fel y disgwyl, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau o ffliw’r adar mewn unedau dofednod yn Lloegr ac rydym bellach wedi cadarnhau achosion o deip H5N8 y Ffliw Adar pathogenig iawn mewn 134 o adar gwyllt mewn 26 lleoliad mewn 17 sir, o Gernyw i Gaint ac i fyny i Northumberland. Hefyd, ar 1 Rhagfyr, cafwyd cadarnhad o’r ddau achos cyntaf mewn adar gwyllt mewn dau leoliad gwahanol yng Nghymru.
Yng ngoleuni’r dystiolaeth o’r cyfandir a’r achosion newydd mewn dofednod ac adar gwyllt, mae pob un o bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU wedi codi lefel y risg o’r ffliw adar pathogenig iawn i uchel iawn ar gyfer adar gwyllt ac i lefel risg ganolig (lle rhoddir mesurau bioddiogelwch llym ar waith) i uchel (lle ceir achosion o dorri’r mesurau bioddiogelwch) ar gyfer dofednod ym Mhrydain.
Unwaith eto, ni allaf ddweud digon pa mor bwysig yw mesurau bioddiogelwch effeithiol i leihau’r risg.
Er bod y canfyddiadau hyn yn dangos bod y Parth Atal yn llwyddo i godi ymwybyddiaeth am ffliw’r adar ac yn annog pobl i roi gwybod os ydyn nhw’n credu bod achos yn eu haid neu’n cael hyd i adar marw, rhaid ystyried a yw’r ymateb yn ddigon o’i gymharu â’r risg sy’n cynyddu. Felly, ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl ffactorau ac fel mesur rhagofalus arall fel ymateb i’r lefel risg uwch, rwy’n cynnig ein bod yn cyhoeddi gorchymyn i gadw adar dan do fel estyniad i’r Parth Atal Ffliw’r Adar Cymru Gyfan, o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw’r Adar a Ffliw sy’n deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006. Daw’r gofyn i gadw adar dan do i rym am 00:00 ar 14 Rhagfyr 2020. Bydd hynny’n digwydd yn ngweinyddiaethau eraill Prydain Fawr hefyd.
Yn ogystal â’r gofynion presennol o ran bioddiogelwch yn y Parth Atal, bydd gofyn i geidwaid gadw eu hadar dan do. Ni fydd cadw’r adar dan do ynddo’i hun yn lleihau’r risg o glefyd heb ein bod hefyd yn cadw at y mesurau bioddiogelwch mwyaf llym. O’r herwydd, cynghorir ceidwaid i gynnal hunan-asesiad o’u mesurau bioddiogelwch. Bydd hynny’n rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i allu cadarnhau eu bod wedi gwneud popeth sy’n bosibl i fodloni gofynion y Parth Atal.
Bydd yr asesiad hwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer 14 Rhagfyr, felly rwy’n pwyso ar bob ceidwad i ddechrau ar ei asesiad cyn gynted ag y gall. Anogir ceidwaid i gynnwys eu milfeddyg yn y broses. Mae amser rhwng nawr ac 14 Rhagfyr i geidwaid baratoi – ystyriwch eich cytiau a’ch siediau. A oes angen rhagor o adeiladau arnoch; a yw’ch adeiladau o safon addas ac yn ateb y diben? Gofynnir i bob ceidwad archwilio’i gyfleusterau a sicrhau eu bod nhw a’u hadar yn barod ar gyfer y gorchymyn.
Ar gyfer ceidwaid sy’n cadw adar y byddai’n gwbl anymarferol neu’n andwyol iawn i’w lles eu cadw dan do, efallai y byddai’n well cyfyngu arnynt rhag mynd at fannau awyr agored. Ond rhaid hefyd cadw’n dynn at fesurau ychwanegol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill, rhoi weiar netin a ffens o gwmpas pyllau dŵr, rhoi weiar netin dros fannau crwydro a mesurau eraill i gadw adar gwyllt draw. Mae hyn yn dod â mi yn ôl at fater sefydlu mesurau bioddiogelwch cadarn.
Rydym yn parhau i ymateb mewn ffordd broactif i’r clefyd ac yn y cam nesaf hwn, bydd cyfrifoldeb arnom o hyd i reoli’r clefyd. Rwy’n parhau i bwyso ar geidwaid i gymryd yr holl gamau sy’n bosibl. Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol, nid yn unig yn ein hymateb i Ffliw’r Adar, ond hefyd i ddiogelu’n da byw rhag pob clefyd. Rwy’n eich cynghori i gynnal asesiad bioddiogelwch, cau’r bylchau a welwch a chymryd pob cam arall posibl. Cadwch olwg ar eich adar a dywedwch ar unwaith os ydych yn credu bod gennych achos o’r ffliw. Cofrestrwch ar Gofrestr Dofednod Prydain waeth faint o adar sydd gennych. Yn y bôn, gwnewch bopeth i ddiogelu’ch adar a’r Haid Genedlaethol!
Fe welwch wybodaeth am y gofynion ym Mharth Atal Ffliw’r Adar, y canllawiau a’r datblygiadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.