Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r gaeaf yn adeg heriol i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig, ac fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch ein parodrwydd ar gyfer y gaeaf eleni.
Llynedd gwelwyd cynnydd sylweddol yn y galw ar ein gwasanaethau ond er gwaetha'r pwysau hwnnw, bu'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i ymateb i gleifion â chyflyrau lle’r oedd bywyd yn y fantol mewn tua phum munud ar gyfartaledd, gwelwyd llai o oedi wrth i gleifion gael eu trosglwyddo o ambiwlans i ofal staff ysbytai, roedd llai nag erioed o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal, ac roedd perfformiad yn erbyn targedau mynediad at ofal heb ei drefnu wedi gwella o gymharu â'r gaeaf diwethaf.
Roedd hyn diolch i waith caled yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol a fu'n gweithio'n ddiflino i gynnal ansawdd y gofal a'r driniaeth ar adeg mor anodd. Hefyd rhaid i ni gydnabod bod y pwysau ar y system gofal heb ei drefnu yn her drwy gydol y flwyddyn.
Fe fydd yr Aelodau'n ymwybodol i mi gomisiynu arolwg o allu'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i wrthsefyll pwysau'r gaeaf yn 2016/17, ac mae hyn yn wedi dangos bod ein dull o edrych ar y system gyfan wrth gynllunio ein gwasanaethau yng Nghymru wedi eu cryfhau. Nid yw eleni yn wahanol; gyda'r paratoadau yn dechrau'n gynnar fel arfer, a'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau integredig i wrthsefyll pwysau'r gaeaf. Mae'r broses hon wedi gweld sefydliadau yn ystyried profiadau'r hydref diwethaf a'r blynyddoedd blaenorol, gyda chefnogaeth digwyddiadau cenedlaethol a lleol.
Mae'r holl gynlluniau wedi cael eu cyflwyno, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi'u hadolygu a rhoi adborth adeiladol i helpu i wella'r cynlluniau. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r gwasanaeth ambiwlans i fod yn barod ar gyfer y gaeaf.
Mae'r cynlluniau'n canolbwyntio ar gynnal llif y cleifion drwy'r system gofal iechyd, gan gynnwys cynllunio i ryddhau'n gynnar, asesiad amserol o anghenion gofal a chymorth, ail-alluogi, darpariaeth camu ymlaen a chamu yn ôl, yn ogystal â sicrhau bod pecynnau gofal ar gael er mwyn i bobl fedru cael eu rhyddhau o'r ysbyty cyn gynted â'u bod yn ddigon da.
Bydd cyfres o gamau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i gryfhau gwasanaethau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys cynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai ac yn y gymuned er mwyn dygymod â'r nifer uwch o gleifion ag amrywiol gyflyrau rydyn ni'n disgwyl y bydd angen eu derbyn i'r ysbyty dros y gaeaf. Fel llynedd, byddwn yn gweld gwasanaethau triniaeth ddydd brys yn cryfhau er mwyn i gleifion â chyflyrau penodol gael eu trin heb orfod aros yn yr ysbyty dros nos lle bynnag y bo hynny'n bosib.
Camau eraill sy'n cael eu cymryd y gaeaf hwn yw mwy o ddarpariaeth saith diwrnod gwaith; mwy o benderfyniadau uwch wrth ddrws ffrynt yr ysbyty; ymestyn oriau gwaith; cymorth ychwanegol i wasanaethau y tu allan i oriau a chartrefi gofal; gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol mewn ysbytai a mwy o ddefnydd o gefnogaeth fferyllfeydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gefnogi'n gwasanaethau iechyd a gofal drwy dargedu buddsoddiad sylweddol, ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth. Mae bron i £43m ar gael drwy'r Gronfa Gofal Sylfaenol ar gyfer 2017/18 i helpu i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae £3.8m ohono i gefnogi rhaglen genedlaethol o brosiectau arloesol i fraenaru ac arwain y ffordd, gyda'r nod o brofi ffyrdd newydd, arloesol o gynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol. Un enghraifft yw Gofal Acíwt yn y Gymuned - cynllun ymateb clinigol acíwt / allgymorth meddygon teulu yn Abertawe Bro Morgannwg sy'n ceisio helpu meddygon teulu i reoli pobl sydd ag amrywiol gyflyrau cymhleth pan fo’u symptomau’n gwaethygu'n sydyn, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mae £10m hefyd yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddatblygu clystyrau gofal sylfaenol, i gefnogi timau meddygon teulu, fferyllwyr, nyrsys cymunedol a therapyddion, deintyddion, optometryddion, timau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr trydydd sector gyda'i gilydd.
Hefyd mae £60m ar gael drwy'r Gronfa Gofal Integredig ar gyfer 2017/18 i helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac oedi wrth ryddhau o'r ysbyty. Un enghraifft yw'r gwasanaeth Stay Well@Home yng Nghwm Taf, sy'n weithredol 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ac yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysog Charles ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg - yn cynnal asesiadau a chomisiynu cefnogaeth gymunedol a thrydydd sector gyda'r nod o osgoi derbyniadau diangen.
Mae prosiect Gwasanaeth Braenaru 111 yn mynd yn ei flaen yn dda, wedi'i gyflwyno yn rhanbarthau Abertawe Bro Morgannwg a Chaerfyrddin. Mae'r gwasanaeth yn adeiladu ar lwyddiant Galw Iechyd Cymru a'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau er mwyn cynnig gwasanaeth ffôn 24/7 yn rhad ac am ddim ar gyfer gofal iechyd nad ydynt yn achosion brys yn yr ardaloedd hyn. Mae wedi gwella mynediad at wybodaeth, cyngor, asesiadau ffôn, brysbennu a thriniaeth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, fel sy'n briodol - gan leihau'r galw diangen ar wasanaethau acíwt ysbytai.
Heddiw fe lansiodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, 'Fy Iechyd y Gaeaf Hwn' fel rhan o'r ymgyrch 'Dewis Doeth'. I gefnogi hyn, byddwn yn dosbarthu 10,000 copi i fyrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus a thrydydd sector dros yr wythnosau nesaf. Bydd y cynllun yn helpu pobl hŷn a'r rhai sydd â chyflyrau cronig yn benodol i rannu gwybodaeth yn hawdd am eu cyflwr a manylion cyswllt defnyddiol, a'i gwneud yn haws i glinigwyr sy'n ymweld gael gafael ar gynlluniau gofal uwch. Dylai hyn helpu pobl i aros yn eu cartrefi dros y gaeaf eleni.
Mae'n hymgyrch brechu rhag y ffliw yn ceisio lleihau'r achosion o salwch a'r pwysau ar y GIG. Ein targed o ran y rhai sy'n manteisio ar y brechiad rhag y ffliw eleni yw 75% ar gyfer pobl hŷn a 55% ar gyfer y rhai mewn grwpiau risg uchel a 60% ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion. Rydym hefyd wedi ymestyn y rhaglen plentyndod o flwyddyn i gynnwys blwyddyn ysgol 4. Bydd y rhaglen yn cwmpasu'r holl blant 2 a 3 oed (drwy ddarpariaeth gofal sylfaenol) a'r holl blant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd 1, 2, 3 a 4 yn yr ysgol gynradd (drwy'r gwasanaeth nyrsio ysgolion). Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw yn rhad ac am ddim i wneud hynny.
Gallwn oll chwarae ein rhan a helpu'r GIG. Os ydych chi'n sâl neu wedi anafu a bod angen triniaeth arnoch, dylech ystyried a oes modd i chi ofalu am eich hun gyda chyngor, neu gael eich gweld a'ch asesu yn eich fferyllfa (ar gyfer mân anhwylderau neu frechiad tymhorol rhag y ffliw er enghraifft), ymweld â meddyg teulu neu Uned Mân Anafiadau. Gall pobl edrych ar wefan 'Dewis Doeth' i gael gwybodaeth ddefnyddiol am y gwasanaethau sydd ar gael a sut i gyrraedd atynt. Rydym hefyd yn rhedeg cynllun peilot i ddarparu gwybodaeth am adrannau mân anafiadau a damweiniau ac achosion brys, gan gynnwys faint o amser y gellid disgwyl treulio yn y cyfleusterau hyn; a sut y gallai fod yn well dewis safleoedd neu wasanaethau eraill a allai ddarparu gwasanaethau gwell ac, mewn rhai achosion, mwy priodol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio'n agos gyda thîm y rhaglen i ddatblygu canllawiau i helpu gwasanaethau i ddefnyddio technegau effeithiol i wella llif cleifion. Bydd y canllawiau hyn, Gwella Llif Cleifion: Dull System Gyfan, yn darparu cyngor ynghylch rhoi arfer da ar waith mewn deg maes gyda'r nod o gael yr effaith fwyaf cadarnhaol. Bydd y canllawiau'n cael eu rhyddhau'n fuan, ac yn cael eu hanelu at uwch staff gweithredol a chlinigol GIG Cymru, timau gweithredol ac awdurdodau lleol, yn arbennig gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol.
Er gwaetha'r ffaith bod mwy o allu o fewn y system i wrthsefyll pwysau'r gaeaf a bod perfformiad yn gyffredinol well, rhaid cydnabod y bydd rhai cyfnodau anodd, hyd yn oed gyda'r trefniadau gorau posib yn eu lle. Ein blaenoriaeth fydd sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd diogel ac effeithlon yn cael eu darparu drwy gydol cyfnod heriol y gaeaf. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau a’r staff sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod dinasyddion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, pan a lle y mae ei angen.