Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Hoffwn hysbysu Aelodau’r Cynulliad y caiff ymgynghoriad trawslywodraethol ei gyhoeddi heddiw ar Strategaeth Parodrwydd am Bandemig Ffliw y DU.

Bydd y strategaeth arfaethedig, y mae’r holl Weinyddiaethau Datganoledig wedi cytuno arni, yn diweddaru’r Fframwaith Genedlaethol flaenorol a gyhoeddwyd yn 2007 yng ngoleuni profiad pandemig H1N1 2009, gan gynnwys canfyddiadau yr Adolygiad Annibynnol a gadeiriwyd gan y Fonesig Deirdre Hine, cyn brif Swyddog Meddygol Cymru, a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fod yn barod am unrhyw bandemig, ac o ystyried yr ansicrwydd ynghylch graddfa, difrifoldeb a phatrwm datblygiad unrhyw bandemig yn y dyfodol, mae tair egwyddor allweddol yn sail i’r strategaeth; sef sicrhau bod ein hymateb yn rhagofalus, yn gymesur ac yn hyblyg.

Bydd y Strategaeth yn cynnig dull gweithredu cyson ar gyfer y DU gyfan, a bydd hefyd yn caniatáu hyblygrwydd ac ystwythder lleol i ystyried patrymau lleol yr haint a’r systemau gofal iechyd gwahanol yn y pedair gwlad.

Mae’r ddogfen ar gael drwy'r Dolenni Perthnasol ar y dde. 

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 17 Mehefin 2011, ac yna caiff y strategaeth derfynol ei chyhoeddi’n ddiweddarach eleni.