Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Ar 22 Mehefin byddwn yn cofio'r diwrnod y gwnaeth yr Empire Windrush a'r 492 o deithwyr o'r Caribî a oedd arni gyrraedd y DU. Y llynedd nodwyd 70 mlynedd ers y digwyddiad mawr hwn, sydd wedi datblygu'n symbol pwysig o'r cysylltiadau ehangach rhwng y Deyrnas Unedig, gwledydd y Gymanwlad ac ynysoedd y Caribî, sy'n arwyddocaol iawn i ni gyd yng Nghymru.
Rydym yn dymuno croesawu'r dathliad hwn yn dwymgalon ac yn cydnabod yr arwyddocâd eang sydd iddo heddiw ac yn hanesyddol.
Glaniodd y Windrush yn dilyn pasio Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1948, ar adeg pan oedd Prydain yn parhau i geisio dod dros holl ddinistr yr Ail Rhyfel Byd. Ar yr adeg honno, roedd cydnabyddiaeth fod ar Brydain angen asedau a chryfderau dinasyddion y Gymanwlad i helpu i ail-adeiladu ein cymdeithas. Rhoddodd Deddf Cenedligrwydd Prydeinig wahoddiad clir i unigolion ddod i ymgartrefu ym Mhrydain. Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i anrhydeddu'r gwahoddiad hwnnw heddiw.
Nid y teithwyr ar yr Empire Windrush oedd y don gyntaf na'r olaf o fudwyr sydd wedi helpu i greu gwead aml-ddiwylliannol y Gymru gyfoes. Chwaraeodd mudwyr ran fawr yn natblygiad Cymru yn rym economaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd dinasyddion y Gymanwlad yn rhan hanfodol o ymdrechion y Cynghreiriaid yn ystod y ddau ryfel. Mae mudwyr wedi parhau i fod yn rhan annatod o'r ffordd y mae ein cenedl wedi datblygu ers i'r Windrush lanio.
Yn 2018, roedd Cymru'n dibynnu'n drwm ar ein cymunedau mudol mewn sectorau fel y diwydiant bwyd a diod, gweithgynhyrchu, twristiaeth, addysg uwch, milfeddygaeth a'r GIG. Roedd y GIG yn 70 oed yn 2018 hefyd ac mae'n arbennig o anodd dychmygu y bydd ein system iechyd yn parhau i lwyddo heb gefnogaeth hollbwysig ein cymunedau mudol a'u disgynyddion.
Roedd y dathliad a gynhaliwyd yma yn y Senedd y llynedd yn un llawen, teimladwy a phwerus ac roedd y rheini a oedd yn gysylltiedig ag ef yn benderfynol y dylai barhau. Felly, rwy'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Race Council Cymru a Hynafwyr Windrush Cymru i drefnu dathliad tebyg yn adeilad y Pierhead heddiw.
Ond rydym wedi gallu mynd ymhellach eleni. Mewn cynhadledd ym mis Mawrth, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diddymu Gwahaniaethu ar sail Hil, cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru'n cynnig cyllid newydd o £40,000. A hynny fel bod grwpiau cymunedol pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn gallu nodi Diwrnod Windrush, gan ddathlu cyfraniadau cenhedlaeth Windrush a'r holl fewnfudwyr at gymdeithas, economi a hanes Cymru.
Mae 18 o brosiectau wedi derbyn y cyllid hwn i gydgysylltu gweithgareddau ar draws Cymru i goffáu Diwrnod Windrush 2019. Mae hyn yn dangos balchder y cymunedau sy'n benderfynol o sicrhau bod straeon yn cael eu rhannu ac aberth cenedlaethau blaenorol yn cael ei gydnabod. Yn sgil cryfder y ceisiadau, rydym wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer y digwyddiadau hyn i bron £55,000.
Ar nodyn mwy prudd, bydd llawer o'r Aelodau'n ymwybodol o'r cyhoeddiad ynghylch Cynllun Iawndal Windrush Llywodraeth y DU yn gynharach eleni, fel ffordd o ad-dalu'r colledion a brofwyd gan y cymunedau hyn. Rwy'n gwybod bod rhai unigolion, sydd bellach yn eu 70au hwyr ac 80au cynnar, yn teimlo bod hyn yn rhy hwyr. Mae'r trawma a achoswyd gan bolisi amgylchedd gelyniaethus Llywodraeth y DU wedi bod yn gysgod mawr dros fywydau cyfan. Ni all iawndal ariannol ddileu profiadau fel colli swydd, colli cartref neu cael eich gorfodi i oedi cyn cael triniaeth feddygol angenrheidiol neu ei cholli'n llwyr.
Yn dilyn digwyddiadau ymgysylltu'r Swyddfa Gartref yn ne Cymru yn ystod mis Mai, ysgrifennais at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo (Caroline Nokes AS) i fynegi fy rhwystredigaeth fod bylchau difrifol yn y cynllun o hyd. Gofynnais hefyd am eglurder ynghylch pa waith sydd wedi'i wneud gan Llywodraeth y DU i ymgysylltu â grwpiau dinasyddion y Gymanwlad yng Nghymru neu yng ngwledydd y Gymanwlad.
Mae'n hollbwysig bod y cynllun hwn yn cael ei hyrwyddo'n briodol ac rwy'n awyddus i sicrhau bod pawb sy'n gymwys i wneud cais am iawndal yn ymwybodol ohono.
Rwy'n annog yr unigolion hynny a allai fod yn gymwys i ofyn am help gan ddarparwyr cyngor wedi'u rheoleiddio er mwyn ceisio cael iawndal. Rydym hefyd yn annog unigolion i roi gwybod i ni am eu pryderon ynghylch y modd y mae'r cynllun yn cael ei reoli.
Mae'r rhain yn faterion hollbwysig, ond ni ddylid gadael iddynt dynnu oddi ar yr ysbryd o ddathlu a diolch sydd wrth wraidd y dathliad hwn. Heddiw rydym yn talu teyrnged i'r cyfraniad a wnaed i Gymru gan Genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion, ynghyd â chyfraniad y cymunedau mudol eraill a ddaeth yma o'u blaenau neu ar eu holau.
Hoffwn fynegi ein gwerthfawrogiad i'r holl ddynion a menywod o leiafrifoedd ethnig a wasanaethodd yn y rhyfeloedd byd. Rydym yn diolch iddynt, a'u teuluoedd, am eu hymdrechion a'u haberth dros y cenedlaethau. Ni fyddwn byth yn eu hanghofio.
Byddwn yn parhau i groesawu i'n côl pobl o fannau eraill sy'n ceisio gwella ein cymunedau a byddwn yn herio unrhyw wahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn, lle bynnag y'i gwelwn.