Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Diben y Datganiad Ysgrifenedig hwn yw rhoi gwybodaeth i’r Aelodau ynghylch parhad y Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.

O fis Ebrill 2012 ymlaen, ail-lansiwyd Rhaglen Cymunedau’n Gyntaf fel Rhaglen Trechu Tlodi sy’n Canolbwyntio ar y Gymuned. Ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar lein.

Mae 52 Clwstwr Cymunedau’n Gyntaf ar draws Cymru, pob un yn canolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru (fel y’u diffinnir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011).  Neilltuwyd cyllid ar gyfer y rhaglen newydd tan fis Mawrth 2015 i ddechrau.

Nod y Rhaglen yw lleihau’r bwlch rhwng ein dinasyddion mwy cefnog a’r rhai mwyaf difreintiedig, ym maes yr economi, iechyd ac addysg, drwy weithio gydag unigolion a chymunedau yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae’r Rhaglen newydd wedi’i chysylltu’n agos â nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae’n elfen allweddol o’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi.

Dechreuodd y Rhaglen newydd yn ffurfiol yn 2012 a chafodd y cyllid ar gyfer y Clwstwr olaf ei gymeradwyo ym mis Ionawr eleni. Yn ôl yr arwyddion diweddaraf, mae’r trefniadau newydd hyn yn gweithio'n dda. Mae dull gweithredu mwy strategol, ynghyd â mwy o ymroddiad o bob rhan o Lywodraeth Cymru, wedi  rhoi mwy o hygrededd ac effaith i’r rhaglen. Serch hynny, mae perygl y bydd ansicrwydd ynghylch dyfodol y rhaglen yn effeithio ar hyder cymunedau, staff Cymunedau’n Gyntaf a phartneriaid allweddol yn ystod y cyfnod critigol hwn a ninnau’n awyddus i sefydlu’r trefniadau gwaith newydd a gyrru ymlaen â’r gwaith ym mhob Clwstwr.

Fi fydd yn rhoi’r prif anerchiad yng Nghynhadledd Flynyddol Cymunedau’n Gyntaf ar 13 Tachwedd yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Ynddi, rwy’n bwriadu ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhad y Rhaglen a byddaf hefyd yn cyhoeddi y bydd y Rhaglen yn parhau tu hwnt i fis Mawrth 2015, trwy gydol oes y Llywodraeth.

Yn bandant, gwn y bydd angen gwneud penderfyniadau pellach ynghylch cyllido’r Clystyrau unigol yn y dyfodol. Oherwydd y cyfyngiadau ariannol presennol, mae’n anorfod y bydd ansicrwydd ynghylch cyllideb y Rhaglen. Cynhelir gwerthusiad o Cymunedau’n Gyntaf y flwyddyn nesaf ac mae’n bur debygol y bydd gwersi i’w dysgu o hynny, a allai helpu i lywio dyfodol y Rhaglen yn ogystal â’r penderfyniadau cyllido penodol. Ond rwy’n awyddus i bwysleisio heddiw bod angen inni gynnal ein hymrwymiad i drechu tlodi yn yr hirdymor a’n bod yn ymrwymedig i waith Cymunedau’n Gyntaf.

Yn y gynhadledd, byddaf hefyd yn cyhoeddi cynllun grantiau ‘Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol’ a fydd yn cwmpasu’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol a Chronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post. Bydd y cynllun newydd hwn i Gymru gyfan yn cefnogi prosiectau cyfalaf sy’n ymwneud yn agos â threchu tlodi a byddaf yn cyhoeddi manylion am hynny ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu'n datgan yn glir ein bod yn bwriadu parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig er mwyn datblygu rhaglen hyblyg ac ymatebol sy’n ceisio trechu effeithiau tlodi yn ogystal â’r ffactorau hirdymor sy’n achosi tlodi yng Nghymru. Drwy barhau i fuddsoddi yn y rhaglen Cymunedau’n Gyntaf a chynlluniau grant eraill cysylltiedig, gallwn ddod ynghyd i gyflawni’r nod.