Huw Lewis, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i edrych o’r newydd ar ein perthynas â’r Trydydd Sector yng Nghymru. Heddiw, rwy’n cyhoeddi dechrau’r broses ymgynghori ffurfiol a chyhoeddiad y ddogfen ymgynghori.
Wrth ddatblygu’r ddogfen ymgynghori hon, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu ar gyngor a barn ystod eang o fuddiannau, sy’n cynnwys prif randdeiliaid a chynrychiolwyr o’r Trydydd Sector a thu hwnt. I ddechrau’r broses, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau anffurfiol cyn yr ymgynghoriad a oedd yn gymorth i lunio a llywio ein syniadau. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth agos â chynrychiolwyr grŵp cyfeirio a gomisiynwyd yn arbennig ac a fu’n edrych ar ein perthynas bresennol ac yn datblygu nifer o feysydd thematig ar gyfer eu hystyried ymhellach.
Hoffwn ddiolch i bob un sydd wedi rhoi o’u hamser, profiad ac arbenigedd i ddatblygu’r ddogfen bwysig hon. Wrth inni fwrw ati bydd yn ein helpu ni i barhau i ddatblygu’r berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhyngom ni a’r Trydydd Sector ac i wynebu’r heriau sy’n ein hwynebu.
Mae rhan hanfodol i’w chwarae gan y Trydydd Sector wrth adeiladu cymunedau cydnerth a helpu pobl i ymdopi yn y cyfnod anodd yma. Mae’n bwysicach byth yn awr fod gwaith ac adnoddau’n cael eu cydgysylltu a’u defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Yn ddiamau, mae sgôp i barhau i wella’r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru a’r Sector yn gweithio gyda’i gilydd. Fel y mynegwyd eisoes, mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynghylch yr hyn y gallwn ei gyflawni; rôl y Sector mewn Cymdeithas Gymreig; sut rydym yn ymgysylltu â’n gilydd, a’r strwythur sy’n cynnal y sector.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 8 Awst 2013. Mae’n gyfle i bawb gyfrannu ac rwy’n annog unrhyw un sydd â barn i wneud hynny. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn helpu i lunio dyfodol y berthynas weithio a chyllido rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru.
Mae’r wybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys y dogfennau perthnasol, a manylion cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori y gallwch fynd iddynt, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.